Mae’r Blaid Lafur yn galw am ymchwiliad brys i helynt Dominic Cummings, yn ôl Nick Thomas-Symonds, Aelod Seneddol Torfaen a llefarydd materion cartref y blaid.

Daw ei sylwadau ar ôl iddi ddod i’r amlwg fod prif ymgynghorydd Boris Johnson, prif weinidog Prydain, wedi teithio o Lundain i Durham ddwywaith yn ystod y coronafeirws yn groes i’r cyfyngiadau teithio.

Mae hefyd yn galw ar Boris Johnson i “gynnig atebion” i’r sefyllfa.

“Rydyn ni’n gofyn am ddau beth,” meddai.

“Yn gyntaf, fod yna ymchwiliad brys gan y Swyddfa Gabinet ac yn ail, fod y prif weinidog yn arwain y gynhadledd i’r wasg heddiw, y gynhadledd ddyddiol, ei hun, i gynnig atebion, oherwydd mae’r sefyllfa hon yn eithriadol o ddifrifol.

“Mae pobol Prydain wedi gwneud aberthion, aberthion eithriadol, i fynd trwy’r argyfwng hwn wrth ddilyn y canllawiau.

“Rydym yn gwybod am neiniau a theidiau, er enghraifft, sydd heb weld eu hwyrion ers misoedd, weithiau’n wyrion newydd anedig, pobol sydd wedi marw ar eu pennau eu hunain heb deulu wrth eu hochr, pobol sydd wedi methu mynd i angladdau, ac mae hynny wedi digwydd oherwydd fod pobol wedi dilyn y canllawiau.”

‘Dim atebion’

Dywed Nick Thomas-Symonds fod yna gwestiynau i’w hateb am sefyllfa Dominic Cummings o hyd.

“Yr hyn nad oes gennym atebion ar ei gyfer yw, yn gyntaf, a wnaeth prif ymgynghorydd y prif weinidog geisio cyngor cyn gwneud y daith eithriadol o hir i Durham?” meddai.

“Ond dw i’n ofni, wrth i’r esboniadau ddod allan dros y penwythnos, y bu mwy o gwestiynau nag o atebion, ac mae 10 Downing Street hyd yn oed nawr yn ymddangos fel pe bai wedi eu cael eu hunain mewn sefyllfa o wrthddweud datganiadau ffeithiol berffaith reymol gan Gwnstabliaeth Durham.

“Pa neges mae’n ei hanfon atyn nhw os oes gennych chi Gwnstabliaeth Durham yn cyhoeddi datganiadau mae 10 Downing Street a’u prif ymgynghorydd yn eu gwrthddweud?”