Mae pedwar dyn ac un ddynes wedi ymddangos gerbron llys wedi eu cyhuddo o lofruddio myfyrwraig ifanc.

Cafodd Aya Hachem, 19 oed, ei saethu o gar yn mynd heibio wrth iddi gerdded i archfarchnad gerllaw ei chartref yn Blackburn ddydd Sul diwethaf.

Cafodd y pump eu cyhuddo hefyd o geisio llofruddio Pashar Khan, ar y sail mai ef oedd gwir darged y saethwyr.

Mewn cyfres o wrandawiadau byr ar wahân yn Llys Ynadon Preston, cafodd y pump eu cadw yn y ddalfa i ymddangos gerbron Llys y Goron Preston ddydd Mercher.

Bu farw Aya Hachem, myfyrwraig ail flwyddyn yn y gyfraith ym Mhrifysgol Salford, yn yr ysbyty o anaf dryll yn fuan ar ôl i’r gwasanaethau brys gael eu galw tua 3 o’r gloch y pnawn.

Mae dau ddyn arall hefyd yn dal yn y ddalfa yn wynebu’r un cyhuddiadau.