Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi amddiffyn ei safiad ar brofi ac olrhain wedi i arweinwyr y Gwasanaeth Iechyd Gwladol rybuddio eu bod yn hwyr yn gweithredu.

Dywed Gweinidog Diogelwch Llywodraeth y Deyrnas Unedig, James Brokenshire, ei fod yn hyderus y bydd system profi ac olrhain yn barod erbyn Mehefin y cyntaf.

Daw hyn wedi i Gydffederasiwn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol rybuddio bod amser yn “brin” cyn i’r Llywodraeth lansio ei chynllun profi ac olrhain os yw’r wlad am osgoi ail don o’r coronaferiws.

Yn ôl prif weithredwr Cydffederasiwn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol Niall Dickson, bydd yna ganlyniadau “difrifol” i staff a chleifion os na fydd system briodol yn cael ei chyflwyno.

Ychwanegodd na ddylai’r gwarchae gael ei lacio ymhellach nes bod cynllun clir yn ei le, sy’n gorfod cynnwys arweinwyr lleol gyda phrofiad o olrhain cyswllt.

Dywedodd wrth raglen Today BBC Radio 4 fod manylion y cynllun yn dod rhy hwyr, gan annog y Llywodraeth i “fwrw ymlaen” gydag ef.

“Rydym yn poeni fod hyn wedi cael ei wneud yn hwyr yn y dydd, nid ydym wedi gweld y manylion eto.

“Yn benodol, dwi’n meddwl ein bod yn poeni am rôl olrhain cyswllt lleol a sut mae hynny yn cyd-fynd â beth sy’n digwydd ar lefel genedlaethol.”

Dywedodd fod y Llywodraeth wedi gwneud “penderfyniad hwyrach” i gynnwys arweinwyr lleol “ond bod angen i ni gyfuno’r cenedlaethol gyda’r rhanbarthol a’r lleol.”

Ap ai peidio?

Yn ogystal â’r amseru, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi gorfod amddiffyn ffurf a fformat y rhaglen olrhain, gydag rhybudd gan arbenigwyr y byddai’n “wallgof” i beidio â defnyddio ap.

Cyhoeddodd Stryd Downing ddydd Iau (21 Mai) y byddai 25,000 o tracwyr cyswllt dynol yn barod ac wedi’u hyfforddi erbyn Mehefin 1, y dyddiad sydd wedi’i bennu yn Lloegr ar gyfer ysgolion cynradd a rhai siopau anhanfodol.

Dywedodd llefarydd ar ran Rhif 10 Stryd Downing y byddai’r ap, wedyn, yn barod o fewn yr “wythnosau nesaf”, gan ddweud bod treialu yn dal i ddigwydd ar Ynys Wyth.

Dywedodd Carsten Maple, Athro Peirianneg Systemau Seiber ym Mhrifysgol Warwick, fod yr ap a addawyd yn debygol o gael croeso cynnes a defnydd eang gan y cyhoedd ac y byddai’n anghywir peidio â’i ddefnyddio.

Dywedodd: “Rwy’n credu y byddai’n wallgof i beidio â defnyddio ap.

“Mae ein hymchwil diweddar wedi dangos, os caiff ei ddylunio’n gywir, y gallai’r ap fod yn effeithlon iawn ac y bydd y cyhoedd yn manteisio arno.”

Dywedodd fod nifer y cysylltiadau yr oedd angen eu holrhain gan ddefnyddio tracwyr cyswllt dynol yn dibynnu ar ba mor dda oedd yr ap a oedd yn eu cefnogi.

“Os oes ap effeithlon iawn, yna efallai nad oes angen y lefelau Mae’r Prif Weinidog yn addo,” meddai.

“Fodd bynnag, os nad oes ap, efallai na fydd y ffigurau a nodir yn ddigonol.”