Mae Aelodau Seneddol Ceidwadol blaenllaw wedi datgan eu cefnogaeth i alwadau’r Blaid Lafur i sgrapio ffioedd mae rhai gweithwyr iechyd o dramor yn gorfod ei dalu i ddefnyddio’r Gwasanaeth Iechyd (GIG).

Mae cyn-is gadeirydd y Blaid Geidwadol Syr Roger Gale wedi rhybuddio’r Prif Weinidog Boris Johnson y byddai methiant i ddiddymu’r ffi yn cael ei ystyried yn “gybyddlyd”.

Yn y cyfamser dywedodd cadeirydd y Pwyllgor Gweinyddol a Materion Cyfansoddiadol, William Wragg, mai “nawr yw’r amser i ddangos haelioni tuag at y rhai sydd wedi gwneud cymaint” dros y  Gwasanaeth Iechyd.

Mae gwleidyddion a gweithwyr gofal iechyd wedi galw ar y Llywodraeth i sgrapio’r ffi mae’n rhaid i weithwyr gofal o du allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd ei dalu. Y tal ar hyn o bryd yw £400 y flwyddyn ac mae disgwyl i’r gost gynyddu i £624 ym mis Hydref.

Mae’r Blaid Lafur, Plaid Genedlaethol yr Alban (SNP) a’r Coleg Nyrsio Brenhinol (RCN) wedi dweud na ddylai gweithwyr gofal iechyd orfod talu’r ffi a’i fod yn “annheg”.

Dywedodd Syr Keir Starmer, arweinydd y Blaid Lafur: “Ydy’r Prif Weinidog yn credu ei fod yn iawn i weithwyr gofal sy’n dod o dramor ac yn gweithio yn y rheng flaen orfod talu ffi o gannoedd – weithiau miloedd o bunnoedd – er mwyn defnyddio’r GIG ei hunain?”

Ond roedd Boris Johnson wedi gwrthod y galwadau gan ddweud na all y wlad fforddio cael gwared a’r ffioedd o dan yr amgylchiadau presennol. Ychwanegodd bod y cyfraniadau yn helpu i godi tua £900m i’r GIG a’i fod “yn anodd dod o hyd i ffynonellau eraill yn y cyfnod yma.”

Mae Syr Roger Gale wedi cwestiynu’r swm o £900m gan ddweud ei fod wedi gwneud cais i’r Swyddfa Gartref i gael y ffigurau cywir.