Mae’r Gymdeithas Etholiadol yn rhybuddio y gallai dewis cael gwared â threfniadau newydd sy’n galluogi i aelodau seneddol siarad a phleidleisio o gartref gael effaith ddifrifol ar Aelodau Seneddol o Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Heddiw, cyhoeddodd Arweinydd y Tŷ Cyffredin, Jacob Rees-Mogg, byddai’r system newydd yn dod i ben.

Mae’r Gymdeithas Etholiadol hefyd yn rhagdybio y gallai’r nifer sy’n cyfrannu blymio o ganlyniad i gyfyngiadau’r coronafeirws os yw cyfraniadau dros y we yn cael eu gwahardd yn llwyr.

Dywedodd Darren Hughes, Prif Weithredwr y Gymdeithas Diwygio Etholiadol: “Byddai’n ddifrifol pe bai gweinidogion yn dod â system dda fel hyn i ben – a hynny gan eu bod nhw ofn ei fod yn gweithio cystal.”

“Dros y mis diwethaf, mae Aelodau Seneddol wedi dangos eu bod nhw’n gallu gweithio o gartref.

“Mewn gwirionedd, mae’r system newydd fwy effeithiol na gweithio o’r Senedd – mae amseroedd pleidleisio wedi lleihau yn sylweddol i ddim ond 15 munud.

“Mae’r gwrthbleidiau’n iawn i ofyn i’r llywodraeth i ailfeddwl eu cynlluniau i gael gwared â’r system.”

Troi cefn ar y cyfle i foderneiddio San Steffan

Ymhlith rheini sydd wedi beirniadu’r dewis i newid y trefniadau mae Arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Jane Dodds.

Dywedodd Jane Dodds: “Dros yr wythnosau diwethaf mae pobol a busnesau ledled y Deyrnas Unedig wedi gorfod addasu i weithio o bell.

“Mae Tŷ’r Cyffredin wedi dangos bod hyn yn bosibl i Aelodau Seneddol hefyd, gydag aelodau yn cyfrannu at ddadleuon, gofyn cwestiynau a phleidleisio o gartref.”

“Drwy sgrapio’r mesurau newydd mae’r llywodraeth yn troi cefn ar y cynnydd rydyn ni wedi’i wneud i foderneiddio ein Senedd.

Osgoi gwastraffu arian trethdalwyr

Ychwanegodd arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru fod y system newydd yn gyfle i arbrofi er mwyn sicrhau bod gwaith adnewyddu Palas San Steffan yn gallu cael ei gwblhau.

“Trwy wneud hynny gallwn osgoi gwastraffu arian trethdalwyr ar siambrau dadlau dros dro a chaniatáu i drafodaethau Seneddol barhau.”