Marwolaethau mewn cartrefi gofal o ganlyniad i’r coronafeirws yw “methiant unigol mwyaf erioed Senedd yr Alban”, yn ôl melin drafod.

Daw’r sylw wrth i Common Weal gyhoeddi adroddiad heddiw ar gyfres o fethiannau yn ystod y pandemig.

Mae ystadegau’n dangos bod mwy na 1,400 o farwolaethau’n ymwneud â’r feirws – 45% ohonyn nhw – wedi digwydd mewn cartrefi neu ganolfannau gofal yn yr Alban.

Fe ddaeth i’r amlwg fod Llywodraeth Prydain wedi cynnal ymarfer pandemig yn 2016, ond nad oedd yr un o’r argymhellion wedi’u rhoi ar waith.

Mae’r adroddiad yn dweud mai prin yw pwerau’r Arolygiaeth Ofal, fod darparwyr preifat yn torri hyfforddiant a gwasanaethau am resymau ariannol, a bod darpariaeth cyfarpar diogelu mewn cartrefi gofal wedi cyfrannu at y nifer uchel o farwolaethau.

Sylwadau’r awdur

“Doedd natur marwolaethau trigolion cartrefi gofal ddim yn cael ei ystyried yn gyfrifoldeb y Llywodraeth ac felly, cafodd y defnydd o fesurau gofal diwedd oes ei adael i ddarparwyr,” meddai Nick Kempe, awdur yr adroddiad.

“Mae hyn, dw i bron yn sicr, yn golygu bod nifer o bobol mewn oed wedi wynebu marwolaethau anghyfforddus a phoenus oedd yn gwbl ddiangen.”

Mae’n dweud ymhellach ei fod yn gobeithio bod yr adroddiad yn dangos nad oedd marwolaethau wedi digwydd “trwy ddamwain, ond yn ganlyniad i’r wladwriaeth yn amddifadu’r cyfrifoldeb am les ei thrigolion”.

“Er mwyn gwneud yn iawn am y trychineb, nid yn unig mae’n rhaid cael arweiniad, ond gweithredu hefyd gan Lywodraeth yr Alban,” meddai wedyn.

“Bydd hynny’n gofyn am adnoddau ychwanegol sylweddol gyda’r bwriad o warchod pobol hŷn a’r staff sy’n gweithio mewn cartrefi gofal tra’n parchu eu hawliau.”

Ymateb Common Weal

Yn ôl Robin McAlpine, cyfarwydd Common Weal, mae “darllen yr adroddiad yn boenus”.

“Wrth gwrs y byddai camgymeriadau’n cael eu gwneud yn ystod yr argyfwng ond dylai graddfa’r camgymeriadau a gafodd eu gwneud arwain at ymchwiliad brys,” meddai.

“Ond mae’r broblem yn fwy sylfaenol.

“Mae sector gofal yr Alban bron i gyd wedi’i breifateiddio ac mae’n cael ei redeg fel diwydiant caffael eiddo, sydd wedi lleihau’r gwasanaethau meddygol mwyaf drud mae’n eu darparu.

“Ynghyd â chamgymeriadau mawr, mae hyn wedi profi i fod yn goctêl marwol a dylai’r Alban ymrwymo i ddychwelyd gofal ar gyfer pobol oedrannus i fod yn wasanaeth cyhoeddus sydd wedi’i gyflwyno er lles y cyhoedd.”

Ymateb Llywodraeth yr Alban

Ond yn ôl Llywodraeth yr Alban, mae’r adroddiad yn “gamarweiniol”.

“Mae’r adroddiad hwn yn creu darlun cwbl gamarweiniol,” meddai llefarydd.

“Ers y cychwyn, mae Llywodraeth yr Albn wedi gweithredu’n gadarn er mwyn gwarchod staff a thrigolion cartrefi gofal.

“Ddechrau mis Mawrth, fe wnaethon ni roi arweiniad clinigol ac ymarferol i gartrefi gofal, yn amlinellu’r camau clinigol ac ymarferol i’w cymryd.

“Cafodd yr arweiniad ei ddiweddaru wedyn ar Fawrth 26, ac eto ar Fai 15.

“Mae pob un yn adlewyrchiad o’n dealltwriaeth gynyddol o’r feirws ac o’r sefyllfa ar lawr gwlad.”