Fe fydd y Capten Tom Moore, cyn-filwr 100 oed sydd wedi codi bron i £33m i’r Gwasanaeth Iechyd, yn cael ei urddo’n farchog.

Mae wedi codi’r arian ers dechrau ymlediad y coronafeirws drwy gerdded o amgylch ei ardd yn Swydd Bedford.

Mae wedi’i ddisgrifio gan Boris Johnson, prif weinidog Prydain, fel “trysor cenedlaethol” wrth iddo ganmol ei waith codi arian sydd, meddai, yn cynnig “goleuni yn ystod niwl y coronafeirws”.

Boris Johnson oedd wedi ei enwebu ar gyfer yr anrhydedd, ac mae Brenhines Loegr wedi cymeradwyo’r enwebiad arbennig.

Bydd seremoni’n cael ei chynnal yn y dyfodol.

Daw’r anrhydedd ddiweddaraf wythnosau’n unig ar ôl iddo gael ei ddyrchafu gan y lluoedd arfog i nodi ei gyfraniad arbennig.

Fe fydd yn cael ei adnabod fel Capten Syr Thomas Moore.

Codi arian

Ei fwriad gwreiddiol oedd cerdded o amgylch ei ardd gant o weithiau cyn ei ben-blwydd yn 100 oed ar Ebrill 30.

Roedd e’n gobeithio codi £1,000 at y Gwasanaeth Iechyd ond roedd y ffigwr hwnnw’n ddegau o filiynau o fewn diwrnodau’n unig.

Mae e hefyd wedi cyhoeddi fersiwn o’r gân ‘You’ll Never Walk Alone’ gyda Michael Ball, oedd wedi cyrraedd brig y siartiau – y canwr hynaf erioed i gyrraedd y nod.

Mae wedi’i longyfarch ar yr anrhydedd a’i waith codi arian gan enwogion o bob math o feysydd.