Mae ffigyrau blaenllaw yn y Blaid Lafur yn creu rhestr hir o ymgeiswyr i olynu Jennie Formby fel ysgrifennydd cyffredinol y blaid.

Roedd dadleuon ynglŷn ag arweiniaeth Jeremy Corbyn a honiadau o wrth-semitiaeth yn gyson yn ystod ei chyfnod wrth y llyw.

Bydd y Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol yn cyfweld ymgeiswyr ar Fai 26, gyda’r olynydd yn cael ei gyhoeddi’n fuan wedyn.

Daw hyn wedi i Syr Keir Starmer, arweinydd y Blaid Lafur, gydnabod fod Jennie Formby wedi ymddiswyddo “trwy gydsyniad.”

Mae’r arweinydd wedi cael ei ganmol gan Fudiad Iddewig Llafur yn dilyn cyfarfod rhithwir ddoe (dydd Llun, Mai 18) – y cyfarfod cyntaf rhwng y grŵp ac arweinydd y blaid ers 2014.

Dywed cadeirydd cenedlaethol Mudiad Iddewig Llafur ei fod wedi’i “galonogi” ar ôl i Syr Keir Starmer gondemnio gwrth-Semitiaeth ac “ymrwymo i fynd i’r afael â’r broblem.”

Mae Syr Keir Starmer wedi cydnabod problemau’r blaid gyda’r gymuned Iddewig, gan ddweud ei “bod hi am gymryd arweinyddiaeth gref ar frig y blaid i newid y diwylliant”.

Y ceffylau blaen

Mae’n debyg mai’r ceffyl blaen yn y ras i olynu Jennie Formby yw David Evans, a oedd yn ddirprwy ysgrifennydd cyffredinol pan oedd Tony Blair yn arwain y blaid.

Ond mae Andrew Fisher, pennaeth polisi Jeremy Corbyn, wedi gwneud cais am y swydd a gallai ddenu cefnogaeth gan aelodau asgell chwith bella’r Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol.