Mae heddlu yn Belffast wedi bod yn disgrifio’r “weithred farbaraidd” o roi cath ar dân.

Cafwyd hyd i weddillion yr anifail gan ddynes mewn parc fore heddiw (dydd Sadwrn, Mai 16).

Mae’r heddlu’n dweud ei bod hi’n ymddangos fod y gath wedi cael ei lladd cyn llosgi ei chorff.

“Roedd hon yn weithred farbaraidd a dw i’n apelio ar bobol leol i’n helpu ni i adnabod y sawl oedd ynghlwm,” meddai llefarydd ar ran yr heddlu.