Mae prawf newydd sy’n gallu dangos os ydy pobl eisoes wedi cael eu heintio gyda’r coronafeirws “100% yn gywir”, yn ôl arweinwyr iechyd cyhoeddus.

Roedd y Prif Weinidog Boris Johnson wedi dweud bod profion o’r fath yn hynod o bwysig oherwydd fe allai ddatgelu faint o bobl sydd eisoes wedi cael Covid-19 ac sydd o bosib a rhywfaint o imiwnedd.

Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Lloegr wythnos ddiwethaf bod arbenigwyr gwyddonol yn Porton Down wedi cynnal asesiad annibynnol o brawf gwaed newydd sydd wedi cael ei ddatblygu gan gwmni fferyllol yn y Swistir.

Dangosodd yr asesiad bod prawf cwmni Roche 100% yn fanwl gywir wrth geisio dangos os yw pobl wedi cael Covid-19 yn y gorffennol.

Er nad yw’n glir ar hyn o bryd faint o imiwnedd rhag Covid-19 sydd gan bobl sydd eisoes wedi’u heintio, dywedodd yr Athro John Newton, cydlynydd cenedlaethol y Rhaglen Profi Coronafeirws yn y  Deyrnas Unedig, ei fod yn “ddatblygiad positif iawn.”