Mae agor y farchnad dai yn Lloegr ond nid yng Nghymru yn “ddryslyd”, meddai gwerthwr tai sy’n gwerthu eiddo yn y ddwy wlad.

O ddydd Mercher, Mai 13,  ymlaen, gall arwerthwyr tai yn Lloegr ailagor a chynnal ymweliadau ond iddyn nhw weithredu’n unol â rheolau ymbellhau cymdeithasol.

Ond mae’r farchnad eiddo yn parhau i fod ar gau ar draws gweddill Prydain, gyda phrisiadau, ymweliadau gan brynwyr posibl, a symud tŷ yn dal i gael eu hatal yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Mae’r sefyllfa o rentu a gwerthu tai yng Nghymru a Lloegr wrth i’r ddwy wlad symud i reolau lockdown gwahanol yn “rhyfedd”, meddai Samantha Troy, Cyfarwyddwr Adre Properties yng Nghas-gwent, Sir Fynwy:

“Rydym yn eistedd ar y ffin, felly mae’n rhyfedd ar hyn o bryd,” meddai.

“Mae’n rhaid i ni aros am gyngor ynglŷn â sut y gallwn ni, gwerthwyr tai yng Nghymru, fynd i mewn i’n tref ein hunain i gynnal yr ymweliadau.

“Mae’n ddryslyd iawn a dwi’n meddwl efallai y gallai Llywodraeth Cymru nawr egluro rhywbeth am sut y gallai asiantau Cymru ymateb i hyn.

“Rwy’n siŵr bod y cwestiynau’n cael eu gofyn, ond ar hyn o bryd mae Cymru’n eithaf clir am aros adref.”

Mae gan y cwmni yng Nghas-gwent – sy’n ffinio â swydd Gaerloyw – staff yn Lloegr a fydd yn cynnal y gwaith.

“Cymysglyd” a “Dryslyd”

“Rydyn ni’n mynd i orfod edrych ar sut mae busnes yn symud ymlaen ac yn defnyddio pobl, mae gennym ni bobl sy’n gallu gwneud y cynnig i ni sydd wedi’u lleoli yn Lloegr,” meddai Samantha Troy.

“Mae’n gymysg, ac mae’n ddryslyd.”

Dywedodd fod y busnes eisoes wedi addasu i argyfwng coronafirws drwy gynnal ymweliadau rhithiol.

Er mwyn sicrhau diogelwch y staff a’r rheini sy’n edrych o amgylch y tai, dywedodd fod y cwmni wedi archebu mygydau a menig i greu pecynnau i’w rhoi i ddarpar denantiaid.

“Os ydyn nhw’n eiddo gwag mae hynny’n llawer haws i ni, ond byddwn ni’n mynnu nad yw perchenogion yn y tŷ er mwyn i ni allu monitro pellter diogel.”

Newid yng nghanllawiau Lloegr

Roedd cyfyngiadau ar symud a ddaeth i rym yn Lloegr ar  Mawrth 26 yn dweud bod rheswm rhesymol i adael y cartref yn cynnwys “symud tŷ lle bo hynny’n rhesymol angenrheidiol”.

Mae newidiadau i’r canllawiau, sy’n dod i rym ddydd Mercher Mai 13, yn galluogi prynwyr a rhentwyr yn Lloegr i gwblhau pryniannau a gweld eiddo yn bersonol.

Yn ogystal, caniateir ymweld â gwerthwyr tai, swyddfeydd gwerthu datblygwyr neu gartrefi sioe.