Mae Alister Jack, Ysgrifennydd yr Alban, yn dweud y bydd yn dilyn cyngor Llywodraeth Prydain, ac nid Llywodraeth yr Alban, wrth deithio i San Steffan.

Fe fydd yn teithio i’r gwaith yn San Steffan yn ddiweddarach yn y mis, er bod Llywodraeth yr Alban yn cynghori pobol i weithio o adref lle bo hynny’n bosib.

Ond mae’r prif weinidog, Nicola Sturgeon wedi egluro ei bod yn credu bod cyngor ei llywodraeth yn berthnasol i bobol sy’n byw yn yr Alban ac yn gweithio yn Lloegr.

Mae Tŷ’r Cyffredin wedi gwneud rhai trefniadau i fusnes gael ei gynnal ar-lein, ond mae disgwyl i hyn ddod i ben ar Fai 20.

Dywedodd Alister Jack y bydd yn mynd i Lundain ar y diwrnod hwnnw i gymryd rhan yn sesiwn cwestiynau rheolaidd yr Alban.

Dywedodd mai’r rheswm yw ei fod yn “weithiwr allweddol”, ac mae Syr Lindsay Hoyle, Llefarydd Tŷ’r Cyffredin, wedi gofyn i’r gweinidogion ateb cwestiynau o’r llawr.

Egluro’r penderfyniad

Wrth siarad ar raglen Good Morning Scotland ar BBC Radio Scotland ddydd Mercher, dywedodd Mr Jack ei fod yn cydnabod mai’r cyngor i’r gogledd o’r ffin yw i aros gartref, ond ychwanegodd ei fod yn “weithiwr allweddol”.

“Mae’r Llefarydd wedi gofyn i mi ateb cwestiynau i Aelodau Seneddol yr Alban. Mae’r Llefarydd yn ei gwneud yn ofynnol i un o’r Gweinidogion o leiaf fod ar y llawr, felly dyna fy nghyfrifoldeb. ”

Dywedodd fod Senedd Prydain wedi cael ei gwneud yn ddiogel, gan ychwanegu:

“Bydd arfer newydd, nid yw’n mynd i fod yn ôl i’r drefn arferol pan ddaw’r amser gyda phawb wedi’u gwasgu yn y Siambr gyda’i gilydd, nid dyna sy’n cael ei awgrymu.”

Pan ofynnwyd iddo beth oedd ei gyngor i eraill am aros gartref, dywedodd Alister Jack

“Ie, wrth gwrs. Dyna neges Llywodraeth yr Alban a cytunais i hynny mewn sgwrs â’r Prif Weinidog yr wythnos diwethaf. ”

Dywedodd mai aros gartref yw “neges yn yr Alban yn bendant”.