Mae undebau’n mynegi pryderon am drenau tanddaearol gorlawn yn Llundain wrth i bobol ddechrau dychwelyd i’r gwaith ynghanol y pandemig coronafeirws.

Yn ôl undebau, mae neges Llywodraeth Prydain y gall gweithwyr ddychwelyd i’r gwaith yn ddiogel “yn llawn perygl”, wrth iddyn nhw adrodd am ddiffyg trefn.

Roedd adroddiadau fore heddiw (dydd Mercher, Mai 13) fod un teithiwr wedi’i daro’n wael ar linell Victoria.

“Roedd ymbellháu cymdeithasol yn ystod y brig yn jôc,” meddai un gweithiwr sy’n rhybuddio mai gwaethygu fydd y sefyllfa.

Mae bysiau’r ddinas yn brysurach nag arfer hefyd.

‘Rheoli argyfwng’

“Mae’r digwyddiad hwn yn dangos pa mor beryglus yw galwad y Llywodraeth ar i bobol ddychwelyd i’r gwaith i wasanaethau trafnidiaeth ynghanol y pandemig hwn,” meddai Mick Cash, ysgrifennydd cyffredinol undeb RMT.

“Un digwyddiad ac rydym wedi cael ein gorfodi i reoli argyfwng gydag adroddiadau bod ymbellháu cymdeithasol yn amhosib gyda choetsys tanddaearol dan eu sang.

“Fe wnaeth RMT rybuddio y byddai hyn yn digwydd a chawsom ein hanwybyddu.

“Rydym yn monitro’r sefyllfa ar draws y gwasanaethau fore heddiw, a byddwn yn trafod unrhyw gamau priodol gyda’n cynrychiolwyr lleol.”