Mae’r cynllun i gefnogi gweithwyr sydd ar gennad (furlough) yn sgil y coronafeirws wedi cael ei ymestyn tan fis Hydref – ond trethdalwyr fydd yn ysgwyddo’r faich ychwanegol.

Mae’r cynllun yn cefnogi oddeutu 7.5m o weithwyr ar hyn o bryd, gyda mwy na 40,000 o bobol wedi marw yn sgil y coronafeirws yng ngwledydd Prydain erbyn hyn.

Fel rhan o’r cynllun, caiff 80% o gyflog gweithwyr ei dalu hyd at £2,500 y mis, ond cyflogwyr fydd yn gorfod ei dalu ar ôl mis Gorffennaf.

Yn ôl Rishi Sunak, Canghellor San Steffan, fe fydd mwy o hyblygrwydd o fis Awst i alluogi mwy o weithwyr ar gennad i ddychwelyd i’r gwaith.

Fe fydd modd i weithwyr ddychwelyd yn “rhan amser”, meddai.