Mae’r Unol Daleithiau yn mynnu mai eu “penderfyniad terfynol” yw peidio â rhoi’r hawl i wraig diplomydd gael ei hestraddodi i Loegr i wynebu cyhuddiadau’n ymwneud â marwolaeth Harry Dunn.

Mae gan Anne Sacoolas statws diplomyddol arbennig sy’n golygu bod llywodraeth yr Unol Daleithiau’n ei gwarchod yn ei gwlad ei hun.

Ond mae adroddiadau bod Interpol wedi wedi cyhoeddi gwarant mewn sawl gwlad i’w chadw yn y ddalfa pe bai hi’n penderfynu gadael.

Yn ôl yr Unol Daleithiau, byddai ei gorfodi hi i ildio’r statws a wynebu cyhuddiadau’n “gynsail” ar gyfer y dyfodol.

Cefndir

Cafodd Harry Dunn, 19, ei ladd pan darodd car Anne Sacoolas yn erbyn ei feic ger safle’r awyrlu yn Swydd Northampton fis Awst y llynedd.

Fe wnaeth Anne Sacoolas hawlio statws diplomyddol yn dilyn y digwyddiad, gan ddychwelyd i’r Unol Daleithiau.

Cafodd ei chyhuddo, serch hynny, o achosi marwolaeth trwy yrru’n beryglus ond cafodd cais Llywodraeth Prydain i’w hestraddodi ei wrthod ym mis Ionawr.

Mae Lisa Nandy, llefarydd materion tramor Llafur, yn dweud bod yr achos yn tynnu sylw at “ffaeleddau clir a pharhaus y Swyddfa Dramor”.

Mae teulu Harry Dunn yn dweud eu bod nhw’n “deilchion” ac yn “torri’u calonnau’n llwyr”.