Mae disgwyl i Rishi Sunak, Canghellor San Steffan, gyhoeddi estyniad i gynllun cyfnod gweithwyr ar gennad (furlough), lle mae Llywodraeth Prydain yn rhoi cymhorthdal dros dro ar gyfer cyflogau gweithwyr oherwydd y coronafeirws.

Mae o leiaf 6.3 miliwn o bobol yn derbyn hyd at 80% o’u cyflogau ar hyn o bryd gan drethdalwyr o dan y system, sy’n costio tua £8bn.

Mae Rishi Sunak wedi dweud o’r blaen ei fod yn paratoi i dynnu gweithwyr a busnesau oddi ar y rhaglen sy’n rhedeg tan ddiwedd mis Mehefin ar hyn o bryd.

Ond mae galw ar iddo ymestyn y cynllun.

Roedd disgwyl y byddai’r rhaglen yn parhau tan fis Medi, er y bydd cyfradd y cymorth yn cael ei dorri o uchafswm o 80% o gyflog i 60%.

Canllawiau teithio

Yn y cyfamser, mae Gweinidogion yn bwriadu gosod canllawiau ar sut y gall pobol deithio’n ddiogel ar drafnidiaeth gyhoeddus wrth i gyfyngiadau’r coronafeirws gael eu llacio ychydig.

Roedd y gyfradd farwolaethau o ganlyniad i’r coronafeirws yn y Deyrnas Unedig yn fwy na 32,000 wrth i’r prif weinidog Boris Johnson ddweud ei fod e am i’r rhai nad ydyn nhw’n gallu gweithio o adref ddechrau dychwelyd i’w gweithleoedd yforyd (dydd Mercher, Mai 13).

Rhybuddiodd Rishi Sunak yr wythnos ddiwethaf nad oedd y cynllun presennol yn “gynaladwy” ar ei gyfradd presennol, er ei fod yn addo na fyddai unrhyw doriadau sydyn.

Dywedodd Torsten Bell, prif weithredwr melin drafod y Resolution Foundation ac un o eiriolwyr cynnar y cynllun, y dylai gael ei ddiddymu’n raddol.

“Gallai symud yn rhy gyflym sbarduno ail ymchwydd enfawr yn y swyddi a gollir ar adeg pan mae’n ymddangos bod diweithdra eisoes ar ei lefel uchaf ers chwarter canrif,” meddai.

“Mae’r polisi hwn wedi gwneud gwahaniaeth enfawr yn yr argyfwng yma.

“Nawr mae angen newid gofalus a graddol er mwyn sicrhau bod y manteision y mae wedi’u darparu yn cael eu sicrhau yn hytrach na’u gwastraffu.”

‘Fesul sector’

Yn y cyfamser, mae Mark Sesnan, rheolwr gyfarwyddwr y gweithredwr hamdden GLL, yn awgrymu y dylid edrych ar unrhyw newidiadau fesul sector.

“Dylid gwarchod diwydiannau fel hamdden a lletygarwch,” meddai.

“Mae hyn oherwydd, er mwyn cadw at ganllawiau ymbellháu cymdeithasol, bydd yn rhaid i ni weithredu’n sylweddol is.

“Yn ei dro, bydd hyn yn cael effaith fawr ar nifer y staff sy’n gallu dychwelyd i’r gwaith yn llawn.”

‘Camau bach’

Mae Boris Johnson wedi dweud nad yw’n disgwyl gweld “llifogydd” sydyn o bobol yn mynd yn ôl i’r gwaith yn dilyn cyhoeddi “map ” ei lywodraeth ar gyfer llacio’r cyfyngiadau ddydd Llun (Mai 11).

Ond ysgogodd hyn lif o gwestiynau ynghylch sut y gellid ei gyflawni yng nghanol rhybuddion fod y llywodraeth yn gwanhau ei neges “aros gartref”.

Wrth siarad yn sesiwn friffio Rhif 10 y wasg, dywedodd Boris Johnson fod y mesurau – gan gynnwys caniatáu ymarfer corff diderfyn yn yr awyr agored – yn “gamau bach” yn unig.

Rhybuddiodd fod y llywodraeth yn barod i ailosod rheoliadau pe bai unrhyw arwydd fod cyfradd drosglwyddo’r feirws yn codi eto.

Mae Cyngres yr Undebau Llafur (TUC), yn y cyfamser, wedi croesawu cyhoeddi canllawiau’r llywodraeth ar sut y gellir gwneud gweithleoedd yn ddiogel rhag y coronafeirws wrth iddyn nhw ail agor.

Bydd gofyn i gyflogwyr – gan gynnwys ffatrïoedd a safleoedd adeiladu – gynnal asesiad risg cyn ailddechrau.

Ond roedd hyn yn dilyn beirniadaeth gan undebau fod Boris Johnson wedi cyhoeddi ei alwad dychwelyd i’r gwaith yn ei ddarllediad ddydd Sul (Mai 10) heb esbonio sut y gellid ei gyflawni’n ddiogel.