Mae Prif Weinidog Prydain, Boris Johnson, wedi dweud wrth Dŷ’r Cyffredin y gall y Deyrnas Unedig “ailadeiladu ein heconomi ac agor ein cymdeithas yn raddol.”

“Byddwn yn cael ei harwain gan ddata, gwyddoniaeth ac iechyd cyhoeddus, nid gobaith neu adferiad economaidd,” meddai wrth y siambr.

Wrth roi diweddariad i’r Tŷ ynglyn â chanllawiau coronafeirws Llywodraeth y Deyrnas Unedig, sydd ond yn berthnasol yn Lloegr, dywedodd:

“Gallwch nawr gerdded, eistedd a gorffwys mewn parciau, gallwch wneud ymarfer corff a’r holl bethau gwahanol yma gydag aelodau o’ch tai neu gydag un person o dŷ arall gyn belled â’ch bod chi’n cadw ar y rheolau ymbellhau cymdeithasol,” meddai.

Ychwanegodd ei fod yn “gobeithio fod hyn yn glir.”

Aeth ymlaen i gyhoeddi y byddai dirwyon yn codi i bobl sy’n torri’r rheolau, gan gychwyn gyda £100 a dyblu gyda phob trosedd i £3,600.

Roedd hefyd yn cydnabod  bod “llawer iawn mwy” angen ei wneud i wella’r sefyllfa mewn cartrefi gofal.

Angen eglurder

Dywedodd arweinydd y blaid Lafur, Syr Keir Starmer fod y wlad angen “eglurder” gan y Llywodraeth.

“Beth sydd angen ar y wlad nawr yw eglurder a sicrwydd ac mae’r ddau i weld mewn cyflenwad byr ar hyn o bryd,” meddai.

“Ac mae’n ymddangos mai beth sydd wrth galon y broblem yw bod y Prif Weinidog wedi gwneud datganiad neithiwr cyn i’r cynllun gael ei ysgrifennu, neu o leiaf ei orffen.”

Honnodd Syr Keir Starmer bod “dim consensws naill ai ar y neges na’r polisi rhwng Llywodraeth y Deyrnas Unedig a’r rhai yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.”

“Hawl gyfreithiol” y llywodraethau datganoledig

Roedd arweinydd yr SNP yn San Steffan Ian Blackford hefyd wrth law i herio’r Prif Weinidog, gan alw arno i dderbyn y bydd yr Alban yn parhau i ddilyn canllawiau “aros gartref.”

“A wnaiff y Prif Weinidog gadarnhau ei fod yn derbyn ac yn parchu bod y cyngor yn y gwledydd datganoledig yn parhau i fod ‘arhoswch gartref, gwarchodwch y GIG, achubwch fywydau’ a’i bod hi’n hawl cyfreithiol pob Prif Weinidog i osod canllawiau ei hun ar gyfer yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon,” meddai.

Ymateb Johnson i hynny oedd bod “y rhan fwyaf o bobl sy’n edrych ar y realiti, realiti ymarferol y cyngor rydym yn ei roi heddiw, yn gallu gweld, yn gyffredinol, fod mwy o lawer, sy’n uno’r Deyrnas Unedig na sy’n ei rhannu.”

“Cyngor da i wledydd Prydain i gyd”

Cyhuddodd Aelod Seneddol Dwyfor Meirionydd, Liz Saville-Roberts, y Prif Weinidog o siarad “fel Prif Weinidog Lloegr” yn ei ddatganiad.

Gwadodd ef hynny gan ddweud fod “ei gyngor yn gyngor da i wledydd Prydain i gyd.”