Mae Aelod Seneddol Ceidwadol wedi galw am ddiddymu Senedd Cymru gan ddweud ei fod wedi cael llond bol o Gymru’n dilyn rheolau gwahanol i rai Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

Dywed Daniel Kawczynski, sydd wedi cynrychioli Shrewsbury ag Atcham fel Aelod Seneddol ers 2005, nad yw pobl Lloegr yn gallu teithio “i’w arfordir agosaf” yn sgil rheolau Llywodraeth Cymru.

Dywed Daniel Kawczynski: “Mae’n ddrwg gennyf ond mae’r amser wedi dod i estyn allan fel Ceidwadwyr i’r niferoedd mawr o bobl yng Nghymru sy’n coelio mewn un system i’r ddwy wlad.

“Mae’n rhaid i ni weithio tuag at refferendwm i ddiddymu Senedd Cymru a dychwelyd i un system wleidyddol i’r ddwy wlad – undeb wleidyddol rhwng Lloegr a Chymru.”

Daw hyn wedi cyhoeddiad dryslyd y Prif Weinidog Boris Johnson nos Sul (Mai 10) lle ddywedodd y byddai pobl yn Lloegr yn cael gyrru i rywle er mwyn gwneud ymarfer corff.

Fodd bynnag, dyw cyngor Llywodraethau Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon heb newid hyd yma, a dywed y Prif Weinidog Mark Drakeford ei fod yn pryderu y bydd “y llif traffig i mewn i Gymru yn parhau i gynyddu” yn sgil y cyhoeddiad.

“Siomedig” – Ben Lake

Yn ymateb i sylwadau Mr Kawczynski, mae Aelod Seneddol Ceredigion, Ben Lake, wedi pwysleisio bod angen blaenoriaethu iechyd cymunedau Cymru:

“Mae’n siomedig nad yw Mr Kawczynski wedi llwyr ddeall difrifoldeb y sefyllfa sydd ohoni. Mae ganddo berffaith hawl i’w farn ar faterion cyfansoddiadol Cymreig. Ond byddwn yn gobeithio bod hyd yn oed yr Aelod Seneddol dros yr Amwythig ac Atcham yn medru deall pam fod Llywodraeth Cymru – yn ystod pandemig byd-eang – yn blaenoriaethu iechyd cymunedau yng Nghymru dros fynediad ei etholwyr at un o draethau Cymru.”

Y traeth agosaf i’r Amwythig

Dywedodd Llyr Gruffydd, Aelod Plaid Cymru dros Ogledd Cymru yn y Senedd:

“Mae ystadegau newydd yn dangos nad yw gogledd Cymru wedi cyrraedd yr anterth eto felly rydym mewn sefyllfa fregus iawn yma o ran amddiffyn bywydau pobl. Mae’r Llywodraeth wedi penderfynu yn gywir i gadw’r cyfyngiadau am dair wythnos arall.

“Yn y cyfamser mae gennym AS Amwythig sy’n flin am ei fod eisiau mynd i’r traeth. Ac oherwydd na all wneud hynny mae am weld diddymu Senedd Cymru!

“Mae’n ymddangos yn glir y bydd yr ymosodiadau gwleidyddol ar ddatganoli gan y ‘blaid gas’ yn dwysáu oherwydd bod Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi penderfynu gwneud un peth a Lloegr wedi penderfynu mynd y ffordd arall.

“Os yw Mr Kawzynski wir eisiau mynd â’i fwced a’i rhaw i’r traeth, mae’n hollol rhydd i fynd i Heswall yng Nghilgwri. Dyna’r traeth agosaf i’r Amwythig.”

Cafodd golwg360 wybod gan y Ceidwadwyr Cymreig nad oedden nhw am wneud sylw ar y mater.

Ymateb personol

Ond mewn llythyr agored, mae Craig Williams, Aelod Seneddol Ceidwadol Sir Drefaldwyn wedi ymateb yn uniongyrchol yn dilyn “sylwadau gan sawl etholwr am eich sylwadau am ddatganoli”.

Mae’n dweud ei fod yn “derbyn fod hwn yn gyfnod heriol i ni gyd, ac y bydd unrhyw symud o ran neges ac ymateb i’r argyfwng Covid yn achosi dryswch ac oedi”.

Ond mae’n dweud ei fod yn galw ar Boris Johnson a Simon Hart, Ysgrifennydd Cymru, “i gydweithio â Llywodraeth Cymru i sicrhau cydlyniad lle bo’n bosib”.

Ond mae’n dweud ymhellach “y dylid parchu y gall ac y bydd Llywodraeth Cymru a Senedd Cymru yn defnyddio’u pwerau cyfansoddiadol, a gafodd eu rhoi trwy sawl refferendwm gan bobol Cymru”.

Mae’n dweud “nad nawr yw’r amser am ddadl ddifrifol ac ymchwiliad i effaith y symud hwn” ac y “daw hynny’n nes ymlaen”, gan fod “cwestiynu sylfeni democratiaeth Gymreig oherwydd unrhyw symud yn anghywir ac nad yw’n helpu”.

Mae’n dweud mai’r unig ateb yw “dileu’r llywodraeth hon a dychwelyd llywodraeth Geidwadol i Fae Caerdydd”.

Ymateb yn uniongyrchol i’r sylwadau

Wrth ymateb yn uniongyrchol i’r sylwadau, dywed Craig Williams fod y Democratiaid Rhyddfrydol “wedi anwybyddu ewyllys y bobol”, a bod hynny’n amlwg yn yr etholiad cyffredinol diwethaf.

“Byddaf yn parhau i gydweithio â chi ar faterion trawsffiniol ac yn gadael i chi arwain ar faterion sy’n effeithio eich ochr chi o’r ffin yn unig”.

“Mae ein hetholaethau, ein heconomi leol a rhanbarthol a bywydau etholwyr wedi’u cysylltu’n annatod, a gallaf eich sicrhau chi fod ymdeimlad cryf dros ben yng Nghymru dros fod yn rhan o Deyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon.

“Edrychaf ymlaen at ein gelyniaeth gyfeillgar pan fydd Cymru’n chwarae ac, wrth gwrs, yn curo Lloegr ar y cae rygbi a gobeithio’n fawr y gallwch chi chwarae yn y gêm nesaf rhwng San Steffan a Senedd Cymru, lle tipyn gwell ar gyfer y ddadl hon.

“Dw i wedi copïo’r Prif Chwip i mewn, a allai fod yn ddyfarnwr.”