Mae wyth o bobol wedi cael dirwy yn dilyn ffrwgwd yn ystod parti pen-blwydd yn Bolton.

Roedd 40 o bobol yn y parti, er bod gwledydd Prydain ynghanol gwarchae’r coronafeirws.

Cafodd yr heddlu eu galw toc cyn 8 o’r gloch neithiwr (nos Sadwrn, Mai 9), ac fe wnaethon nhw annog pobol i adael y safle.

Ond fe wnaeth nifer ohonyn nhw wrthod, gan ddechrau peswch a phoeri.

Cafodd saith o bobol eu harestio ar amheuaeth o fod yn feddw ac o achosi annhrefn, yn ogystal â thorri rheolau’r gwarchae.

Cafodd un arall ddirwy yn y fan a’r lle.