Mae cyfarpar diogelu personol (PPE) gafodd ei gludo i’r Deyrnas Unedig o Dwrci wedi cael eu cadw mewn warws gan nad oedden nhw’n cyrraedd safonau diogelwch Prydeinig.

Cafodd y cyfarpar ei gludo i’r Deyrnas Unedig gan y Llu Awyr fis diwethaf ond nid yw wedi cyrraedd staff y rheng flaen, meddai’r Daily Telegraph.

Dywed y papur fod archwilwyr wedi darganfod fod y cyfarpar yn ddiffygiol.

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cael problemau mawr wrth geisio sicrhau cyflenwad o gyfarpar diogelu personol drwy gydol y pandemig coronafeirws.

Cyhoeddodd y Llywodraeth fis Ebrill eu bod wedi llwyddo i archebu cyfarpar, gan gynnwys 400,000 gŵn, o Dwrci ac ar ôl ychydig o oedi, cafodd ei gludo i’r Deyrnas Unedig ar Ebrill 22.

Ond daeth i’r amlwg nad oedd y cyfarpar yn addas ar gyfer gweithwyr iechyd rheng flaen, yn ôl y Daily Telegraph.

Dyw hi ddim yn glir a fydd y Llywodraeth yn ceisio am ad-daliad am yr archeb.

“Rydym yn gweithio ddydd a nos i sicrhau fod cyfarpar diogelu personol ar gael drwy uno’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, diwydiant a’r lluoedd arfog i greu rhwydwaith dosbarthu cynhwysfawr i drosglwyddo cyfarpar diogelu personol i’r rheng flaen,” meddai datganiad i’r papur a ran yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol.