Fe fydd y seithfed gyfres o Love Island yn cael ei gohirio tan 2021 oherwydd pandemig y coronafeirws, meddai ITV.

Dywedodd cyfarwyddwr teledu ITV, Kevin Lygo, eu bod wedi “trio pob ffordd i gynhyrchu Love Island yr haf hwn ond nid yw’n bosib ei chynhyrchu mewn modd sy’n diogelu lles pawb sy’n gysylltiedig ac mae hynny’n flaenoriaeth i ni.”

Ychwanegodd: “O dan amgylchiadau arferol fe fyddwn ni wedi bod yn paratoi i deithio i’r lleoliad ym Mallorca i gael y fila yn barod ond yn amlwg dydy hynny ddim yn bosib rŵan.”

Mae Kevin Lygo wedi ymddiheuro wrth ffans y gyfres gan ddweud y bydd Love Island yn dychwelyd yn “gryfach nag erioed” yn 2021.

Yn y cyfamser mae modd gweld chwe chyfres Love Island ar BritBox, meddai.

Wrth ymateb i’r cyhoeddiad dywedodd Laura Whitmore, a oedd wedi cyflwyno’r gyfres dros gyfnod y gaeaf: “Y newyddion da ydy ein bod ni wedi cael mwy o geisiadau nag unrhyw gyfres arall.”