Mae disgwyl i’r Prif Weinidog Boris Johnson amlinellu ddydd Sul (Mai 10) sut yn union bydd y cyfyngiadau’n cael eu llacio er mwyn i bobl allu dychwelyd i’w gwaith.

Ond mae’r Llywodraeth wedi pwysleisio y bydd y frwydr yn erbyn y coronafeirws yn parhau ar ôl i fesurau’r cyfyngiadau gael eu llacio.

Mae nifer o weithwyr mewn swyddfeydd wedi bod yn gweithio gartre ers Mawrth 23 ac mae cwmnïau yn awyddus iddyn nhw ddychwelyd i’r swyddfa. Er mwyn gwneud hynny bydd yn rhaid cyflwyno nifer o newidiadau i sicrhau nad yw iechyd a diogelwch staff yn cael ei beryglu.

Yn ôl y BBC, mae rhai o’r cynlluniau sy’n rhan o strategaeth ddrafft y Llywodraeth, yn cynnwys gweithio shifftiau ar amseroedd gwahanol, llai o rannu offer a pharhau i weithio gartre cymaint â phosib, ynghyd a chau ffreuturau a lifftiau swyddfeydd.

Fel rhan o’r strategaeth hefyd fe fyddai’n rhaid cyflwyno rhagor o fesurau hylendid a sgriniau.

Yn y cyfamser, mae’r Guardian yn adrodd bod gweinidogion mewn trafodaethau gyda chwmnïau technoleg er mwyn creu “pasborts iechyd” a fyddai’n defnyddio profion coronafeirws i ddangos pa weithwyr sydd wedi cael Covid-19.

Siopau

Roedd Consortiwm Manwerthu Prydain (BRC) wedi cyhoeddi canllawiau ar gyfer mesurau fyddai siopau yn gallu eu cyflwyno pan fydd y cyfyngiadau yn cael eu codi.

Mae’r mesurau sy’n cael eu hargymell yn cynnwys cyfyngu faint o bobl sy’n gallu dod i mewn ac allan o’r siop, defnyddio marciau ar y llawr i ddangos sut i ymbellhau’n gymdeithasol a chau stafelloedd newid.

Mae hefyd yn argymell darparu diheintydd dwylo wrth fynedfa siopau.

Yn ôl pennaeth BRC fe fyddai’r canllawiau yn sicrhau diogelwch cwsmeriaid a staff.

Trafnidiaeth gyhoeddus

Wrth siarad ar raglen y BBC The Andrew Marr Show dywedodd yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth Grant Shapp y byddai nifer y trenau a bysys yn cael eu cynyddu er mwyn delio gyda chynnydd yn nifer y teithwyr tra’n cadw at argymhellion ymbellhau cymdeithasol.

Mae hefyd wedi awgrymu ffyrdd eraill o deithio i’r gwaith fel seiclo a cherdded.

Meysydd awyr

Mae prif weithredwr maes awyr Heathrow John Holland-Kaye wedi rhybuddio nad oes gan feysydd awyr rhyngwladol ddigon o le ar gyfer mesurau ymbellhau cymdeithasol ar ôl i’r cyfyngiadau gael eu codi.

Mae e’n credu bydd profion iechyd gorfodol i deithwyr, gwisgo masgiau, a chynyddu hylendid yn opsiwn mwy realistig i sicrhau bod meysydd awyr yn gallu ail-agor.