Mae Llywodraeth yr Alban yn bwriadu prynu hysbysebion mewn papurau newydd lleol ar draws y wlad mewn ymdrech i helpu’r diwydiant cyfryngau yn ystod y pandemig coronafeirws.

Cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Cyllid Kate Forbes y penderfyniad yn dilyn trafodaethau gyda Chymdeithas Papurau Newydd yr Alban.

Mae papurau wedi dioddef yn sgil y pandemig, gyda chwymp mewn hysbysebion yn gorfodi rhai i roi’r gorau i gyhoeddi.

Bydd y Llywodraeth yn rhoi hysbysebion mewn papurau lleol o wythnos nesaf ymlaen, gan roi hwb i’w hincwm.

“Rydym yn gweithio’n agos gyda Chymdeithas Papurau Newydd yr Alban i weld sut y gallwn gefnogi’r diwydiant yn ehangach, ac yn dilyn trafodaethau gyda nhw’r wythnos hon rydym wedi cytuno ar gyfres o ymgyrchoedd hysbysebion Llywodraeth yr Alban yn ein papurau lleol,” meddai Kate Forbes.