Mae Ryanair wedi dweud eu bod nhw’n disgwyl i 3,000 o swyddi peilotiaid a chriw caban gael eu colli wrth iddyn nhw ail-strwythuro’r cwmni hedfan.

Daeth y cyhoeddiad bore ma (Dydd Gwener, Mai 1) ar ôl i hediadau gael eu canslo yn sgil y coronafeirws.

Dywed y cwmni y gallai’r cynlluniau ail-strwythuro gynnwys cymryd gwyliau heb dal a gostwng cyflogau hyd at 20% yn ogystal â chau nifer o safleoedd awyrennau ar draws Ewrop, nes bod y galw am hediadau yn gwella.

Cafodd cyflog y Prif Weithredwr Michael O’Leary ei ostwng 50% ar gyfer mis Ebrill a Mai ac mae wedi cytuno i ymestyn hynny am weddill y flwyddyn ariannol hyd at fis Mawrth 2021.

Mae Ryanair wedi dweud na fydd eu hawyrennau’n hedfan tan “o leiaf fis Gorffennaf” ac na fydd nifer y teithwyr yn cynyddu i’r lefelau a gafwyd yn 2019 “tan o leiaf yr haf 2022.”