Mi fydd yna estyniad rhad ac am ddim yn cael ei roi yn awtomatig i fisas y gweithwyr iechyd a gofal mwyaf hanfodol o dramor yng Nghymru, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Cartref, Priti Patel, heddiw.

Bydd gweithwyr rheng flaen, gan gynnwys bydwragedd, radiograffwyr, gweithwyr cymdeithasol, a fferyllwyr, sydd â fisa sydd i fod i ddod i ben cyn Hydref 1, 2020 yn derbyn estyniad awtomatig o un flwyddyn.

Bydd hyn yn berthnasol i’r rhai sy’n gweithio i’r Gwasanaeth Iechyd ac i’r sector annibynnol a bydd yn cynnwys aelodau o’u teulu.

Bydd yr estyniad yn dod i rym ar unwaith, ac mae’n berthnasol i bob fisa sydd yn dod i ben rhwng Mawrth 31 a Hydref 1, 2020. Bydd unrhyw weithiwr Gwasanaeth Iechyd sydd wedi talu am gais heb ei ddatrys eto yn cael cynnig ad-daliad.

Teuluoedd i gael aros

Mae’r Ysgrifennydd Iechyd hefyd wedi cadarnhau y bydd aelodau teulu a phobl sy’n ddibynnol ar weithiwyr iechyd sydd wedi marw o ganlyniad i’r coronafeirws yn cael caniatâd i aros am amser amhenodol.

“Mae gweithwyr iechyd a gweithwyr cymdeithasol o dramor yn rhan annatod o’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru” meddai’r Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Simon Hart.

“Rydym yn diolch iddyn nhw am eu cefnogaeth a’u harbenigedd yn ystod y cyfnod heriol hwn.

“Mae’r cyhoeddiad yma’n golygu y bydd sawl aelod o staff gofal iechyd a’u teuluoedd yng Nghymru yn elwa o’r estyniad wrth ni barhau i weithio gyda’n gilydd i achub bywydau.”