Mae Democratiaid Rhyddfrydol yr Alban yn awyddus i weld Jo Swinson yn sefyll am sedd yn Holyrood.

Yn eu plith mae’r arweinydd Albanaidd, Willie Rennie, sy’n dweud nad yw’n bwriadu camu o’r neilltu, yn groes i adroddiadau diweddar.

Collodd y cyn-arweinydd a chyn-aelod seneddol Dwyrain Sir Dunbarton ei sedd yn San Steffan yn yr etholiad cyffredinol ym mis Rhagfyr, gan ildio’r arweinyddiaeth yr un pryd.

Ond dydy hi ddim wedi gwneud penderfyniad ynghylch ei dyfodol yn y byd gwleidyddol eto, yn ôl y blaid – er iddi fynnu adeg yr etholiad cyffredinol ei bod hi’n awyddus i ddod yn brif weinidog Prydain.

Sylwadau Willie Rennie

“Byddwn i wrth fy modd yn gweld Jo yn dod i Senedd yr Alban, a dw i’n credu ei bod hi’n ddawnus,” meddai Willie Rennie.

“Ro’n i’n awyddus i’w hannog i barhau i fod ynghlwm, ac iddi ystyried Senedd yr Alban yn un o’r opsiynau hynny.

“Dydy hi ddim wedi gwneud penderfyniad ynghylch hynny ond dw i’n credu ei bod hi’n ddawnus ac y byddai hi’n wych i’w chael hi.

“Mae’n rhy gynnar iddi adael y byd gwleidyddol – gobeithio y bydd hi’n ei wneud e.”