Does dim penderfyniad hyd yn hyn pryd fydd Boris Johnson yn dychwelyd i’r gwaith wrth iddo wella o’r coronafeirws, yn ôl yr Ysgrifennydd Iechyd, Matt Hancock.

Wrth gael ei holi bore ma dywedodd Matt Hancock bod y Prif Weinidog “yn gwella” ond bod unrhyw benderfyniad pryd fydd yn cymryd yr awenau unwaith eto yn fater i Boris Johnson a’i feddygon.

Mae’r Prif Weinidog yn gwella yn ei gartref yn Chequers ar hyn o bryd ar ol cael triniaeth am Covid-19 mewn uned gofal dwys yn yr ysbyty yn Llundain.

Dywedodd wrth raglen Good Morning Britain ar ITV: “Fues i’n siarad efo’r Prif Weinidog ddoe. Mae mewn hwyliau da ac yn gwella llawer mwy felly mae hynny’n newyddion da iawn.”

Pan ofynnwyd iddo a oedd pwysau ar Boris Johnson i ddychwelyd yn gynt cyn iddo fod yn barod i wneud hynny, ychwanegodd Matt Hancock: “Dw i’n gobeithio ddim. Mae e’n hynod o frwdfrydig a dyn gweithgar iawn wrth ei natur a dyw e ddim yn hoffi bod yn segur.

“Wrth gwrs, mae hyn yn argyfwng digynsail. Ond wedi dweud hynny, mae wedi dilyn cyngor ei feddygon ac mae’n fater i’r Prif Weinidog a’i feddygon i gael sgwrs ynglŷn â phryd yn union fydd yn dod ’nôl.

“Y newyddion da ydy ei fod yn amlwg ei fod yn gwella. Mae wedi siarad efo Arlywydd yr Unol Daleithiau, mae wedi siarad efo’r Frenhines ac mae wedi bod yn trafod efo’r rhai ohonon ni yn y Cabinet sy’n gysylltiedig â’r ymateb.”