Mae’r Blaid Lafur yn credu mewn “ateb ffederal” i sefyllfa gyfansoddiadol y Deyrnas Unedig, yn ôl yr Ysgrifennydd Cartref Cysgodol.

Cafodd Nick Thomas-Symonds, Aelod Seneddol Torfaen, ei benodi i’r rôl ar ddechrau’r mis – mae degawdau ers i AS Cymreig fod yn y swydd.

Bu ei fos, Keir Starmer, Arweinydd newydd y Blaid Lafur, yn canu clodydd ffederaliaeth yn ystod yr ymgyrch i olynu Jeremy Corbyn.

Yn siarad â Golwg mae’r Aelod Seneddol o’r Cymoedd wedi atseinio’r alwad am newid cyfansoddiadol.

“Dw i ddim yn genedlaetholwr,” meddai. “Dyw Keir ddim yn genedlaetholwr. Wrth gwrs rydyn ni’n wladgarol. Ond dydyn ni ddim yn credu mewn hollti’r Deyrnas Unedig.

“Felly dw i’n credu bod yn rhaid cydnabod pedair cenedl y Deyrnas Unedig, ac o fewn [yr undeb] hynny mae angen fframwaith cyfansoddiadol a datganoledig gref.

“Dw i’n credu mai ffederaliaeth yw’r ffordd o wneud hynny. Dyna mae Keir wedi bod yn dadlau trosti ers sawl mis erbyn hyn.”

Plismona

Er bod nifer o feysydd polisi eisoes wedi’u datganoli i Gymru, dyw plismona – un o gyfrifoldebau’r Ysgrifennydd Cartref – ddim yn eu plith.

Mae Nick Thomas-Symonds yn gyndyn i ddweud a fyddai’n cael ei ddatganoli pe bai Llafur yn dod i rym, ac mae’n dweud y bydd rhaid aros tan y maniffesto nesa’ i gael barn y blaid ar y mater.

Gallwch ddarllen rhagor o’r cyfweliad yn rhifyn yr wythnos hon o Golwg.