Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn wynebu cwestiynau ynglyn â’r amser gymerodd hi i ymuno â chynllun Undeb Ewropeaidd i brynu offer meddygol.

Mae swyddogion yn mynnu na dderbyniodd y Deyrnas Unedig wahoddiad mewn pryd oherwydd problem gyfathrebu.

Ond mae ffynhonellau ym Mrwsel wedi dweud wrth y BBC bod y Deyrnas Unedig wedi cael digonedd o amser i ymuno â’r cynllun.

Cafodd y Llywodraeth ei barnu fis diwethaf am beidio cymryd rhan mewn cynllun Undeb Ewropeaidd i brynu offer meddygol – gan gynnwys peirianau anadlu, offer amddiffynol a phrifion.

Ar y pryd, dywedodd Stryd Downing fod y Deyrnas Unedig yn gwneud trefniadau ei hun gan nad oedd yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd bellach, er i weinidogion wadu bod teimladau gwrth Undeb Ewropeaidd wedi chwarae rhan yn y penderfyniad.

Yn hwyrach, gwnaeth Stryd Downing ddatganiad yn honni bod y Deyrnas Unedig wedi derbyn gwahoddiad i gymryd rhan yn y cynllun ond fod swyddogion heb weld yr e-bost oherwydd “problem gyfathrebu.”

‘Cywiriad’

Ddydd Mawrth (Ebrill 22) dywedodd Syr Simon McDonald, sydd yn was sifil uwch yn y Swyddfa Dramor, wrth y Pwyllgor Materion Tramor fod y penderfyniad yn un bwriadol gan weinidogion.

“Gadawon ni’r Undeb Ewropeaidd,” meddai.

“Roedd yn benderfyniad gwleidyddol… a’r penderfyniad ydi na.”

Oriau’n ddiweddarach tynodd Syr Simon McDonald ei eiriau yn ôl yn llwyr wedi i’r Ysgrifennydd Iechyd, Matt Hancock, wadu bod y penderfyniad i beidio cymryd rhan yn un gwleidyddol.

“Mae hynny yn anghywir. Ni chafodd gweinidogion eu briffio ynglyn â’r cynllun a doedd y penderfyniad i beidio cymryd rhan ddim yn un gwleidyddol.”

Ychwanegodd fod “y ffeithiau ynghylch y sefyllfa fel y maent wedi cael eu disgrifio eisoes” gyda’r Deyrnas Unedig yn hwyr yn ymuno â’r cynllun “oherwydd problem gyfathrebu.”

Ond dywedodd Chris Bryant, Aelod Seneddol Llafur y Rhondda, ar ei gyfrif twitter, “Dw i ddim yn credu gair o hyn [y ‘cywiriad’]. Dw i wedi clywed bod COBRA wedi trafod y mater sensitif o gymryd rhan ai peidio, a hynny tra roedd Matt Hancock yn cadeirio”.

Mewn cynhadledd i’r wasg, dywedodd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth Llywodraeth Cymru, Ken Skates, fod y penderfyniad i beidio ymuno yn y lle cyntaf, p’un a oedd hynny’n benderfyniad gwleidyddol ai peidio, yn “gamgymeriad”.

Dywedodd Mr Skates: “Dydw i ddim yn bwriadu gwneud fel wnaeth Dominic Raab yn gynharach a bod yn feirniadol o unigolion, ond rwy’n credu mai camgymeriad oedd peidio â bod yn rhan o’r cynllun arbennig hwn o’r cychwyn.

“Rwy’n credu y dylai Llywodraeth y DU fod wedi manteisio ar y cyfle i weithio gyda llywodraethau eraill i oresgyn yr her gyffredin sy’n ein hwynebu.

“Yn y pen draw, Llywodraeth y DU sy’n gyfrifol am ateb y cwestiynau anodd iawn hyn am a wnaethpwyd penderfyniad gwleidyddol. O’n rhan ni, byddwn yn dweud ein bod yn credu ei fod yn gamgymeriad nad oedd Llywodraeth y DU yn rhan o’r cynllun o’r cychwyn un. ”

Mae gan y Deyrnas Unedig 10,000 o beirianau anadlu ar hyn o bryd, gyda 3,000 ohonynt ddim yn cael eu defnyddio.

O ddechrau mis Mai, dylai 1,500 ohonynt fod yn cael eu cyflenwi gan gonsortiwm peirianau anadlu.