Mae cyn-brif was sifil y Swyddfa Gartref Syr Philip Rutnam wedi dechrau camau cyfreithiol yn erbyn yr Ysgrifennydd Cartref Priti Patel.

Ymddiswyddodd Syr Philip Rutnam ym mis Chwefror yn sgil honiadau o fwlio yn erbyn Priti Patel.

Daw’r newyddion diweddaraf ynglŷn â’r camau cyfreithiol wrth i Swyddfa’r Cabinet gwblhau ymchwiliad i honiadau ei bod wedi bwlio uwch swyddogion yn ogystal â bychanu cydweithwyr.

Mewn datganiad, dywedodd ysgrifennydd cyffredinol undeb yr FDA, sy’n cynrychioli gweision sifil, Dave Penman: “Mae Syr Philip Rutna, gyda chefnogaeth ei dîm cyfreithiol a’r FDA, wedi cyflwyno cais i’r tribiwnlys cyflogaeth ynghylch diswyddo annheg ac yn erbyn yr Ysgrifennydd Cartref.

“Ni fydd Syr Philip Rutnam yn gwneud sylwadau pellach ar hyn o bryd.”

Cefndir

Pan ymddiswyddodd Syr Philip Rutnam, bu’n feirniadol iawn o Priti Patel, gan honni ei fod wedi bod yn darged “ymgyrch briffio fileinig oedd wedi’i chynllunio” gan yr Ysgrifennydd Cartref.

Mewn datganiad gafodd ei ryddhau gan ei gyfreithwyr ar y pryd, dywedodd fod Priti Patel yn gwadu’r honiadau yn ei herbyn.

“Mae’n ddrwg gen i nad ydw i’n ei chredu hi,” meddai wedyn.

“Dydy hi ddim wedi gwneud yr ymdrech y byddwn i’n ei ddisgwyl er mwyn ymbellhau oddi wrth y sylwadau.

Aeth ymlaen i ddweud bod “Priti Patel ddim wedi gwneud unrhyw ymdrech i ymgysylltu â fi er mwyn trafod hyn.”

Roedd un adroddiad yn awgrymu fod Priti Patel wedi ceisio symud Syr Philip Rutnam o’i hadran yn dilyn cyfres o ddadleuon.

Dywed Priti Patel fod yr honiadau yn “ffals,” gyda rhai yn ei disgrifio fel bos “heriol” ond nid bwli.