Mae aelod seneddol yr SNP wedi ymddiheuro am ffrae danllyd â’i gymydog am roi baner tîm pêl-droed yn ei ffenest.

Fe wnaeth yr aelod seneddol Steven Bonnar roi baner tîm Celtic yn ei ffenest yn ne sir Lanark, ac roedd ei gymydog yn anhapus.

Fe wnaeth y ddau herio’i gilydd i ffrwgwd, ac fe gafodd y ffrae ei ffilmio a’i llwytho i YouTube.

Yn y fideo, mae’r cymydog yn gofyn i Steven Bonnar, “Ydy hynny’n angenrheidiol?”

“Ydy beth yn angenrheidiol?” meddai’r aelod seneddol wedyn, cyn croesi’r stryd. “Beth a wnelo’r peth â chi beth sydd yn fy nhŷ i?”

Mae Steven Bonnar i’w weld yn gwylltio wedyn wrth i’w gymydog gyfeirio ato droeon fel cynghorydd, ac mae’n cyfeirio at ei gymydog fel “headcase” cyn dweud y byddai’n barod i ymladd â’r dyn “unrhyw ff**** bryd”.

Ymddiheuriad

Wrth ymddiheuro, dywed Steven Bonnar iddo gael ei “dynnu i mewn” i’r ffrae gan ei gymydog.

“Dw i’n difaru cael fy nhynnu i mewn i ffrae â chymydog ac ymateb yn fyrbwyll i sylwadau a wnaed,” meddai.

“Dw i’n ymddiheuro am fy iaith a’m hymddygiad, ac am achosi aflonyddwch.”

Nid dyma’r tro cyntaf i’r aelod seneddol gael ei hun yng nghanol ffrae, ar ôl croesi ei fysedd y tu ôl i’w gefn wrth dyngu llw yn San Steffan y llynedd.