Fe fydd yr Ysgrifennydd Iechyd, Matt Hancock, yn wynebu cwestiynau gan Aelodau Seneddol heddiw (Dydd Gwener, Ebrill 17) ynglŷn ag ymateb y Llywodraeth i’r coronafeirws, ar ôl i’r cyfyngiadau gael eu hymestyn am o leiaf tair wythnos arall.

Mae disgwyl i Aelodau Seneddol holi Matt Hancock am offer diogelwch (PPE) a strategaeth ar gyfer llacio’r cyfyngiadau pan fydd yn ymddangos drwy gyswllt fideo gerbron Pwyllgor Iechyd y Senedd.

Daw hyn yn dilyn adroddiadau bod pennaeth Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd yn ne Lloegr wedi gofyn am gymorth cwmni ffasiwn am ei fod yn pryderu y bydd staff yn brin o wisgoedd diogelwch yn fuan iawn.

Roedd y dyn, sydd eisiau aros yn anhysbys, wedi gofyn i’r BBC am rif ffon ffatri Burberry sydd, ynghyd a chwmnïau ffasiwn eraill, wedi dechrau cynhyrchu PPE.

Yn y cyfamser mae arweinydd y Blaid Lafur Syr Keir Starmer wedi dweud bod yr Ysgrifennydd Gwladol Dominic Raab, sy’n dirprwyo ar ran Boris Johnson ar hyn o bryd, yn “amharod” i amlinellu cynllun i lacio’r cyfyngiadau heb y Prif Weinidog.

Mae Dominic Raab wedi dweud bod “goleuni ar ddiwedd y twnnel” ond wedi rhybuddio yn erbyn llacio’r cyfyngiadau yn rhy fuan gan beri risg o gynyddu nifer yr achosion o Covid-19.

Mae Keir Starmer wedi dweud nad yw’r Llywodraeth wedi gwneud penderfyniadau yn ddigon cyflym yn ystod yr argyfwng.

Yn ôl yr Adran Iechyd, roedd nifer y marwolaethau o Covid-19 mewn ysbytai yn y Deyrnas Unedig wedi cyrraedd 13,729 am 5pm ddydd Mercher (Ebrill 15).