Mae disgwyl i gamau ynysu bara am o leiaf tair wythnos yn rhagor yn Lloegr.

Bydd yr Ysgrifennydd Tramor, Dominic Raab, yn cynnal cyfarfodydd am y mater yn ddiweddarach, ac mae disgwyl cyhoeddiad am yr estyniad yn sgil hynny.

Mae Gogledd Iwerddon eisoes wedi ymestyn y cyfnod ynysu hyd at Mai 9, ac mae gweinidogion Cymru a’r Alban wedi dweud y bydd y camau yn parhau yn eu gwledydd hwythau. Roedd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, wedi dweud yr wythnos diwethaf na fyddai’r camau ynysu yn dod i ben yr wythnos yma.

Er hynny, mae ansicrwydd o hyd yng Nghymru ynghylch faint yn hirach bydd y camau’n parhau – Mae’n debygol y gwnawn nhw ddilyn San Steffan yn hyn o beth.

Yr anterth

Mae’r Athro Chris Witty, ymgynghorydd meddygol Llywodraeth San Steffan, wedi dweud bod achosion covid-19 y Deyrnas Unedig “mwy na thebyg” yn cyrraedd eu hanterth.

Ond mae hefyd wedi rhybuddio bod disgwyl rhagor o farwolaethau am “gyfnod byr” eto.

“Ar hyn o bryd, dydyn ni ddim eto wedi cyrraedd y pwynt lle allwn ddweud â hyder – ac yn ddiogel -bod hyn wedi pasio ei anterth,” meddai.