Gallai economi’r Deyrnas Unedig blymio 35% rhwng mis Ebrill a Gorffennaf, ond fe ddylai gryfhau eto erbyn diwedd y flwyddyn, yn ôl y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol.

Dywed arbenigwyr yn y grŵp annibynnol fod disgwyl i ddiweithdra godi i 3.4m os yw’r lockdown yn parhau am dri mis cyn cael ei godi’n raddol am y tri mis wedyn.

Ychwanega’r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol y byddai Cynnyrch Mewnwladol Crynswth (GDP) wedyn yn neidio 25% yn nhrydydd chwarter y flwyddyn ac yna 20% pellach yn nhri mis olaf 2020.

Mae disgwyl i fenthyciadau’r sector gyhoeddus gynyddu £218bn eleni, o’i gymharu â rhagolygon mis Mawrth, gan daro £273 biliwn, neu 14% o Gynnyrch Mewnwladol Crynswth.

“Dyma fyddai’r diffyg ariannol mwyaf mewn un flwyddyn ers yr Ail Ryfel Byd,” meddai datganiad gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol.

Mae benthyciadau’r sector gyhoeddus hefyd yn codi’n llym, gan basio 100% o Gynnyrch Mewnwladol Crynswth yn ystod y flwyddyn, ond yn gorffen y flwyddyn ar 95% o’i gymharu ag amcangyfrifon blaenorol o 77%.

Ynghylch diweithdra, mae’r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn darogan y gallai cynnydd serth o 2.1 miliwn ar ben y 1.3 miliwn sydd eisoes allan o waith, fod dros dro yn unig.

“Fel gyda Chynnyrch Mewnwladol Crynswth, mae’r cynnydd mewn diweithdra’n debygol o fod yn gyflym iawn, fel mae’r cynnydd serth mewn ceisiadau credyd cyffredinol (UC) yn ardystio,” meddai’r datganiad.

“Yn wir, gallwn ddisgwyl i bron yr holl gynnydd ddigwydd o fewn y mis cyntaf.”

Ychwanegodd y sefydliad y gallai niferoedd diweithdra newid eto yn sgil ansicrwydd ynghylch a fydd y Llywodraeth yn parhau i sybsideiddio cyflogau.