Mae dyn 18 oed o Skipton yng Ngogledd Swydd Efrog wedi’i gyhuddo o ymosod ar ddau weithiwr brys drwy boeri a bygwth peswch yn eu hwynebau ar ôl sôn bod ganddo fe’r coronafeirws.

Roedd y gweithwyr ambiwlans yn ceisio helpu’r dyn ar ôl iddo gael ffit.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Swydd Efrog “fod y dyn wedi bod yn ymosodol y tu mewn i’r ambiwlans ac wedi poeri ar ddau aelod o’r criw”.

Maen nhw’n dweud ymhellach “iddo fygwth peswch yn eu hwynebau ar ôl gwneud cyfeiriad at y coronafeirws”.

Cafodd ei arestio yn dilyn y digwyddiad.

Ymddygiad difrifol

“Er na allaf roi sylwadau ar yr achos penodol hwn am resymau cyfreithiol, mae’n amlwg ei fod yn ymddygiad difrifol i ymosod drwy boeri neu wneud bygythiadau o’r fath yn erbyn unrhyw weithiwr argyfwng,” meddai llefarydd ar ran yr heddlu.

“Yn enwedig mewn adeg o argyfwng cenedlaethol pan fo’r risg o ledaenu’r haint yn parhau’n uchel.”

Bydd y dyn yn mynd gerbron llys ar ddydd Gwener, Mai 22.