Fydd Llywodraeth Prydain ddim yn llacio’r cyfyngiadau coronafeirws sydd yn eu lle yr wythnos hon, ond mae Dominic Raab yn dweud bod “y frwydr yn cael ei hennill”.

Aeth tair wythnos heibio bellach ers i’r cyfyngiadau ddod i rym, ond dydy gwledydd Prydain ddim eto wedi gweld y brig, meddai Ysgrifennydd Tramor San Steffan, sy’n arwain y llywodraeth ar hyn o bryd yn absenoldeb Boris Johnson, sy’n gwella o’r feirws.

Mae adroddiadau ar hyn o bryd y gallai’r llywodraeth ymestyn y cyfyngiadau am dair wythnos arall, ond dydyn nhw ddim eto wedi cadarnhau sut na phryd y byddan nhw’n llacio’r cyfyngiadau.

Mae disgwyl i wyddonwyr gyfarfod yr wythnos hon i drafod y sefyllfa, ond mae Dominic Raab yn rhybuddio rhag gwneud penderfyniadau brys ynghylch ymbellháu cymdeithasol.

Cyngor byd-eang

Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn cynghori y dylid dechrau llacio cyfyngiadau bob yn dipyn ac nid i gyd ar unwaith.

Maen nhw hefyd yn cynghori bod angen rhoi ystyriaeth ofalus i’r gallu i olrhain cyswllt rhwng unigolion sydd wedi’u heintio a phobol eraill.

Serch hynny, mae rhybudd hefyd na fydd pobol yn aros am gyfnod amhenodol i’r llywodraeth lacio’r cyfyngiadau cymdeithasol, a bod angen dod o hyd i ffordd o ddweud wrth y cyhoedd beth fydd yn digwydd nesaf.

Mae Llywodraeth Prydain hefyd dan y lach am fethu â gweithredu’n gynt wrth gau bywyd cyhoeddus i lawr yn sgil y feirws.

Roedd 11,329 o bobol wedi marw mewn ysbytai erbyn neithiwr, ac mae disgwyl i bobol farw mewn cartrefi gofal hefyd.

Dim ond yr Unol Daleithiau, yr Eidal, Sbaen a Ffrainc sydd wedi gweld mwy o bobol yn marw o’r feirws.

Ond mae Dominic Raab yn wfftio unrhyw gymhariaeth â gwledydd eraill.