Fe fydd Llywodraeth Prydain yn adolygu gwarchae’r coronafeirws yn ddiweddarach yr wythnos hon, ar ôl i fwy na 10,000 o bobol farw o’r feirws yng ngwledydd Prydain.

Yn ôl gweinidogion San Steffan, maen nhw’n awyddus i sicrhau bod y brig wedi mynd a dod cyn i’r rheolau llym gael eu llacio.

Ond mae lle i gredu bod rhai gweinidogion yn awyddus i lacio’r rheolau yn sgil yr effaith ar yr economi.

Yn ôl un gweinidog sydd wedi’i ddyfynnu yn y Times, mae angen osgoi “rhagor o niwed” i’r economi, a’r gred yw y gallai’r rheolu gael eu llacio ymhen tair wythnos.

Bydd arbenigwyr gwyddonol yn cyfarfod yfory (dydd Mawrth, Ebrill 14) i gynnal adolygiad ffurfiol o ymbellháu cymdeithasol.

Economi

Mae Rishi Sunak, Canghellor San Steffan, eisoes wedi neilltuo £14bn o gronfa’r coronafeirws i helpu’r Gwasanaeth Iechyd ac awdurdodau lleol.

Ond mae’r Llywodraeth dan bwysau i sicrhau rhagor o gyfarpar diogelu personol ar gyfer gweithwyr y rheng flaen sy’n trin cleifion.

Daw’r pwysau wrth i’r Coleg Nyrsio Brenhinol rybuddio y gallai rhai staff, fel “ateb terfynol”, wrthod gweithio oni bai bod ganddyn nhw’r cyfarpar priodol.

Mae 10,612 o bobol wedi marw yng ngwledydd Prydain yn sgil y feirws, sy’n gynnydd o 737 o ddydd Sadwrn.