Mae un o weinidogion San Steffan yn gwrthod dweud a ddylai Llywodraeth Prydain fod wedi ymyrryd er mwyn atal gŵyl geffylau Cheltenham rhag cael ei chynnal.

Erbyn hynny, roedd 200 o bobol yn marw o’r coronafeirws yn yr Eidal bob dydd, a hynny’n arwydd o’r hyn oedd i ddod yng ngwledydd Prydain.

Mae’r ŵyl yn cael ei beio am helpu i ledaenu’r feirws wrth i filoedd o bobol ddod ynghyd.

“Rydyn ni wedi dilyn y cyngor gwyddonol a meddygol, ac yn parhau i wneud hynny,” meddai Alok Sharma wrth raglen Sophy Ridge on Sunday ar Sky News.

“Mae’r Grŵp Cyngor Gwyddonol (Sage) sy’n cynghori’r llywodraeth yn cyfarfod yr wythnos nesaf, a byddan nhw’n edrych ar y dystiolaeth sydd yn ei lle ac, wrth gwrs, mae angen i ni aros tan ein bod ni’r tu hwnt i’r brig ac, fel mae’r prif swyddog meddygol wedi’i ddweud, dydyn ni ddim yn gwybod pryd fydd hynny,” meddai.

Gwarchae

Ac mae Alok Sharma hefyd yn gwrthod dweud a oedd y llywodraeth wedi cyflwyno gwarchae ar yr adeg orau.

“Fel mae’r sefyllfa wedi esblygu, yn amlwg rydyn ni wedi edrych i weld beth yw’r cyngor ac rydyn ni wedi gweithredu ar sail hynny,” meddai.

“Dw i ddim yn arbenigwr gwyddonol a meddygol a dyna pam fod gyda ni arbenigwyr sy’n rhoi’r cyngor hwnnw i ni, dyna pam fod gyda ni Sage, a dyna pam ein bod ni’n dilyn yr hyn maen nhw’n dweud wrthym am ei wneud.”