Mae cwestiynau wedi codi am ymddygiad y Gweinidog Tai yn Llywodraeth Prydain yn ystod y cyfyngiadau presennol ar deithio.

Mewn adroddiad yn y Daily Mail, mae Robert Jenrick yn cael ei gyhuddo o deithio i ‘ail gartref’ yn Swydd Henffordd, ac o wneud taith 40 milltir oddiyno at ei rieni oedrannus yn Sir Amwythig.

Dywed Robert Jenrick mai’r tŷ yn Swydd Henffordd yw ei gartref teuluol a’i fod yn cludo meddyginiaethau ac angenrheidiau eraill i’w rieni.

Mae Ysgrifennydd Cartref yr Wrthblaid ac AS Torfaen, Nick Thomas-Symonds, wedi galw arno i esbonio’i ymddygiad.

“Mae’n bwysig iawn er mwyn cynnal hyder y cyhoedd fod Robert Jenrick yn esbonio’i hyn a dweud pam yn hollol fod y daith yn angenrheidiol,” meddai.

“Mae caniatâd i adael eich tŷ am bedwar rheswm – ac un o’r rhain yw mynd â chyflenwadau hanfodol i bobl fregus.

“Os mai dyma a wnaeth Robert Jenrick, yna mae’n amlwg ei fod ymhlith y pedwar eithriad. Ei le ef yw ateb yn fanwl oedd oedd union ddiben y daith a wnaeth.”