Bydd Aelodau Seneddol yn medru hawlio £10,000 yn rhagor o dreuliau i’w helpu i weithio o adref yn ystod epidemig y coronafeirws.

Yn ôl papur The Times bydd modd gwario’r arian ar liniaduron ac argraffwyr, neu gallan nhw dalu biliau trydan, gwres, a ffonau symudol â’r treuliau ychwanegol.

Mae Aelodau Seneddol eisoes yn medru hawlio treuliau gwerth £26,000 y flwyddyn i dalu costau eu swyddfeydd.

Mae gwleidyddion ledled y Deyrnas Unedig bellach yn gweithio o adre, ac wedi cau eu swyddfeydd, a daw’r cam yn ymateb i hynny.

“Ansoffistigedig”

Mae ambell un wedi gwawdio’r cam, ac ymhlith y rheiny mae Alistair Graham, cyn-Gadeirydd y Pwyllgor ar Safonau ym Mywyd Cyhoeddus.

“Mae’n ymddangos i mi fel ffordd ansoffistigedig o fynd i’r afael â phethau,” meddai.

“Dw i’n credu bydd y cyhoedd yn cwestiynu pam bod y penderfyniad hwn – rhywbeth sy’n edrych fel taliad hael – wedi ei wneud heb gynnal ymchwil i’r costau go iawn.”