Mae rhai gweithwyr Gwasanaeth Iechyd yn anfon eu plant i fyw gyda pherthnasau i’w gwarchod rhag y coronafeirws.

Dywed staff sy’n gofalu am gleifion ar y rheng flaen eu bod yn gofidio am gael eu heintio a phasio’r afiechyd ymlaen i’w teuluoedd.

Tra bo rhai gweithwyr y Gwasanaeth Iechyd wedi cymryd camau i hunanynysu tu allan i’r gweithle.

Mae anfon plant i aros gyda neiniau a theidiau, modrybedd ac ewythrod yn rai camau mae staff wedi eu cymryd.

Mae’r sefyllfa wedi cael ei chymharu gyda faciwîs yn cael eu hanfon o ddinasoedd mawr yn ystod yr Ail Ryfel Byd Cyntaf.

“Mae fy merch i’n aros gyda’i thad, dwi’n gweithio ar ward Covid-19. Mae’n anodd ond alla i ddim cymryd y risg o ddod a hi gartref,” meddai un nyrs.

Dywed nyrs arall: “Buodd yn rhaid i fy merch i fynd i fyw gyda fy chwaer gan fod y risg yn ormod.”

Mae anesthetydd ymgynghorol yn ne Cymru wedi gadael ei dŷ teuluol er mwyn gwarchod ei wraig a gafodd drawsblaniad aren saith mlynedd yn ôl.

Dyw Dr Craig Williams, a wnaeth roddi aren i’w wraig, ddim ond yn gweld ei wraig a’i ferch 15 mlwydd oed drwy’r ffenestr wrth roi cyflenwadau iddynt.

“Dyma yw realiti beth mae pobol yn mynd drwyddo ac mae’n anodd,” meddai.

“Rydym yn rhagweld hyn yn parhau am 11 i 12 mis arall.”