Mae ymchwilwyr yn credu fod pellhau cymdeithasol yn gweithio wrth i ddata o app tracio awgrymu bod nifer y bobol rhwng 20-69 sy’n dangos symptomau coronafeirws wedi disgyn o 1.9 miliwn i 1.4 miliwn ar draws y Deyrnas Unedig.

Mae’r cwymp, o oddeutu 500,000 o bobol ers Ebrill 1, i’w weld mewn dadansoddiad o ddata’r Covid Symptom Tracker app, sy’n cael ei ddefnyddio gan dros ddwy filiwn o bobol.

Gall cyfranwyr dracio eu hiechyd yn ddyddiol ar yr app, sydd hefyd yn cael ei ddefnyddio gan weithwyr gofal iechyd a gweithwyr ysbytai.

Effaith fawr?

Dywed yr ymchwilwyr sy’n gyfrifol am yr app, a gafodd ei ddatblygu gan dîm yng ngholeg King’s, Llundain, bod y ffigyrau diweddaraf yn awgrymu bod aros gartref yn cael effaith mawr ar ledaeniad y feirws.

Er bod marwolaethau a nifer y bobol sy’n cael eu derbyn i’r ysbyty yn dal i gynyddu, mae’r ymchwilwyr yn awgrymu bod cwymp mewn symptomau newydd yn golygu y dylai’r niferoedd ostwng ymhen pythefnos os yw ymbellhau cymdeithasol yn parhau.

Mae’r tîm yn nodi bod y bwlch o bythefnos yn cael ei achosi gan yr oedi rhwng symptomau’n cychwyn a dod yn ddifrifol.

“Mae’n gadarnhaol iawn gweld graddfa’r symptomau newydd yn dechrau disgyn,” meddai’r prif ymchwilydd, Yr Athro Tim Spector.

“Er bod marwolaethau a’r nifer o bobol sydd mewn ysbytai’n dal i godi, rydym yn gobeithio bod y ffigyrau yma’n cynnig golau ar ddiwedd y twnnel.”