Mae dynes o Ogledd Tyneside wedi codi ‘bys canol’ ar ei chyngor lleol – ar ôl gofyn ar Twitter am fanylion y casgliad sbwriel.

Ond yn hytrach na brolio’i sarhad, roedd Brenda M Boyd yn teimlo cywilydd ar ôl sylweddoli ei bod hi wedi pwyso’r botwm anghywir ar ei ffôn.

“Dim ond checio – ydy’r casgliad bin gardd yn ôl i drefn?” meddai wrth holi’r cyngor.

“Ydy Brenda, mae e,” oedd yr ateb.

Ond dyna pryd yr aeth y sgwrs yn amheus, wrth iddi ateb gan fwriadu defnyddio emoji bys bawd i fyny.

Sylweddolodd Brenda, druan, ei chamgymeriad pan ddaeth y cwestiwn yn ôl, “Ai dyna’r emoji roeddech chi am ei ddanfon?”

‘Gweld yr ochr ddoniol’

“Bawd i fyny oedd e i fod,” roedd hi’n mynnu, “ond dw i’n gwisgo’r sbectol anghywir – sori os oedd yn sarhaus.”

Ar ôl gwisgo’i sbectol, dywedodd hi ymhellach, “O’r mawredd, dwi newydd edrych iawn eto – flin iawn gen i.”

“Wir i chi Brenda, peidiwch â phoeni am y peth,” meddai’r cyngor.

“Rydych chi wedi dod â dagrau i fy llygaid ac ar ôl ychydig wythnosau rhyfedd, mae’n braf chwerthin.”