Mae pobol sy’n gorfod gweithio o adref yn sgil y coronafeirws yn yfed mwy o alcohol ac yn bwyta’n llai iach, yn ôl astudiaeth newydd.

Mae’r arolwg o 500 o weithwyr gan y Sefydliad Astudiaethau Cyflogaeth hefyd wedi datgelu cynnydd sylweddol mewn anhwylderau cyhyrol.

Dywed dros hanner y bobol a gafodd eu holi eu bod yn dioddef poenau newydd, yn enwedig yn eu gwddf, ysgwydd a’u cefn.

A dywed un o bob pump o’r rhai atebodd yr holiadur eu bod yn yfed mwy o alcohol, tra bod traean yn dweud eu bod yn bwyta’n llai iach, a hanner ohonyn nhw’n cyfaddef eu bod yn gwneud llai o ymarfer corff.

Mae diffyg cwsg hefyd yn bryder, meddai’r adroddiad, gyda’r rhan fwyaf o’r rhai fu’n ateb yn dweud eu bod yn colli cwsg.

Dywed hanner eu bod yn gweithio oriau hir, afreolaidd ac nad ydyn nhw’n hapus gyda’r cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywydau personol.

Mae traean y gweithwyr a gafodd eu holi’n teimlo’n unig, ac un o bob pump yn poeni am ddiogelwch eu swydd.

Ymateb y sefydliad

“Mae’r casgliadau yma’n rhoi darlun o weithlu sy’n wynebu heriau corfforol yn ogystal â meddyliol,” meddai’r sefydliad

“Mae angen i gyflogwyr gydnabod eu bod yn dal yn gyfrifol am les eu staff, hyd yn oed y rhai sy’n gweithio o adref, ac mae yna nifer o gamau allai gael eu cymryd i wella lles gweithwyr.”