Mae Boris Johnson mewn cyflwr “sefydlog” ar ôl treulio’r noson mewn uned gofal dwys, yn ôl Downing Street.

Dywed ei lefarydd swyddogol ei fod wedi bod yn derbyn “triniaeth ocsigen” ond nad oedd angen modd arall o gymorth anadlu arno.

Cafodd ei gludo i uned gofal dwys yn Ysbyty St Thomas yn Llundain nos Lun (Ebrill 6), ar ôl i’w gyflwr waethygu.

“Cam rhagofalus” oedd hwn yn ôl ei lefarydd, rhag ofn y byddai’n rhaid iddo gael ei roi ar beiriant anadlu.

“Mae’r Prif Weinidog wedi bod yn sefydlog dros nos ond yn parhau i fod mewn hwyliau da,” meddai.

Cefndir

Cafodd Boris Johnson ei gludo i’r ysbyty ddydd Sul (Ebrill 5) ar gyngor ei feddyg, wrth iddo barhau i arddangos symptomau o beswch a thymheredd uchel, ddeng niwrnod ar ôl profi’n bositif am y feirws.

Mae pa mor gyflym mae ei gyflwr wedi gwaethygu wedi achosi sioc yn San Steffan gan i’w symptomau gael eu disgrifio fel rhai “ysgafn” yn wreiddiol.

Mae ei lefarydd, fodd bynnag, wedi gwrthod honiadau fod Downing Street wedi ceisio cuddio difrifwch ei gyflwr.

“Rydym wedi bod yn hollol agored gyda chi drwyddi draw, ac wedi darparu’r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch iechyd y prif weinidog,” meddai wrth ohebwyr.

“Mae gennym ymrwymiad i fod mor dryloyw ag y gallwn ni fod drwy gydol y broses hon.”