Mae’r Gweinidog Cabinet Michael Gove yn dweud ar Twitter ei fod yn ynysu ei hun erbyn hyn, gan fod aelod o’i deulu yn dangos symptomau.

Fe yw’r aelod Cabinet diweddaraf i ynysu ei hun.

Dyw e ei hunan ddim yn dangos unrhyw symptomau, ond fe ddechreuodd aelod o’i deulu ddangos symptomau “ysgafn” o’r coronafeirws ddydd Sul, meddai.

Mae’n diolch i bawb am y negeseuon caredig, ond mae’n pwysleisio nad yw’n dangos symptomau a’i fod yn “parhau i weithio fel arfer.”

Daw’r datblygiad diweddaraf hwn yn dilyn y cyhoeddiad neithiwr (nos Lun, Ebrill 6) fod Boris Johnson wedi ei gludo i’r Uned Gofal Dwys wedi i’w gyflwr waethygu.