Mae arbenigwr meddygol yn dweud bod Boris Johnson yn “sâl dros ben” a’i bod yn bosib y bydd angen peiriant anadlu arno rywbryd.
Mae prif weinidog Prydain yn derbyn triniaeth mewn uned gofal dwys yn Llundain ar ôl cael ei dderbyn i’r ysbyty am driniaeth ar gyfer y coronafeirws.
Mae lle i gredu ei fod e’n ymwybodol, a’i fod wedi cael ei symud fel “rhagofal”.
Ond yn ôl yr Athro Derek Hill o Goleg Prifysgol Llundain, mae’n bosib y gallai gael cymorth mwy sylweddol na chyfarpar anadlu sy’n pontio rhwng mwgwd ocsigen a pheiriant anadlu.
Pe bai angen cyfarpar o’r fath arno, fe fyddai’n gorfod cael tiwb yn ei llwnc i’w helpu i anadlu, a dim ond y cleifion yn y cyflwr mwyaf difrifol sy’n cael hynny.
Egluro’r ddamcaniaeth
“Un o nodweddion Covid-19 ym mhob gwlad, mae’n debyg, yw fod llawer mwy o ddynion yn mynd yn ddifrifol wael na menywod – yn enwedig ymhlith y garfan dros 40 oed,” meddai.
“Rydym hefyd yn gwybod fod pobol o dan 60 oed yn ymddangos fel pe bai ganddyn nhw debygolrwydd uwch o wella o salwch difrifol Covid-19 na phobol hŷn.
“Ond does dim amheuaeth fod y digwyddiadau hyn yn golygu bod Boris Johnson yn sâl dros ben.”
Yn ôl y ffigurau diweddaraf, mae oddeutu 50% o gleifion coronafeirws mewn unedau gofal dwys yn marw.