Mae cwmni Debenhams ar fin rhoi ei hun yn nwylo’r gweinyddwyr am yr ail waith o fewn blwyddyn, meddai’r cwmni siopau.

Gyda 142 o’i siopau wedi cau a’r rhan fwyaf o’u 22,000 o staff ddim yn gweithio oherwydd pandemig y coronafeirws, mae’r perchnogion presennol eisiau rhoi’r busnes yn nwylo’r gweinyddwyr ac yna ei brynu yn ôl heb ddyledion.

Dywedodd llefarydd ar ran Debenhams: “Fe fydd hyn yn diogelu Debenhams rhag y bygythiad o gamau cyfreithiol a fyddai wedi gwthio’r busnes i ddwylo’r gweinyddwyr tra bod y 142 o siopau yn y Deyrnas Unedig wedi cau yn unol â chanllawiau’r Llywodraeth yn ystod y pandemig Covid-19.”

Mae’r cwmni wedi cyhoeddi bwriad i benodi gweinyddwyr ac yn gwneud paratoadau i ail agor ei siopau pan fydd cyfyngiadau’r Llywodraeth yn cael eu codi.

Mae’r rhan fwyaf o weithwyr y cwmni yn y  Deyrnas Unedig yn parhau i gael eu talu o dan gynllun y Llywodraeth.

Mae Debenhams yn parhau i fasnachu ar-lein ar draws y Deyrnas Unedig, Iwerddon a Denmarc.