Mae Arglwydd Caerfaddon, perchennog parc safari Longleat, wedi marw o ganlyniad i’r coronafeirws.

Roedd Alexander Thynn yn 87 oed, ac fe fu farw yn yr ysbyty yng Nghaerfaddon ddoe (dydd Sadwrn, Ebrill 4) ar ôl bod yno ers Mawrth 28 a chael ei brofi’n bositif am y feirws.

Daeth cadarnhad o’i farwolaeth mewn neges ar dudalen Facebook Longleat, sydd wedi mynegi eu “tristwch dwysaf”.

Mae’r teulu wedi diolch i’r holl staff fu’n gofalu amdano yn yr ysbyty, ac wedi gofyn am breifatrwydd.