Mae prif swyddog meddygol yr Alban wedi ymddiheuro am anwybyddu ei chyngor ei hun a mynd i’w hail gartref.

Aeth Dr Catherine Calderwood i’r llety yn Fife er ei bod hi’n dweud wrth drigolion yr Alban y dylen nhw aros gartref yn sgil y coronafeirws.

Mae’n dweud nad oedd ei rhesymau dros ymweld â’r llety yn “ddilys”, a’i bod yn “wirioneddol ddrwg” ganddi.

Mae hi’n wynebu pwysau gan wleidyddion i gamu o’r neilltu, ond mae’n dweud y bydd hi’n parhau i “ganolbwyntio’n llwyr” ar ei chyfrifoldebau ar ôl trafod y mater â Nicola Sturgeon, prif weinidog yr Alban.

Fe ddaeth y sefyllfa i’r fei pan gafodd lluniau ohoni hi a’i theulu yn Earlsferry – mwy nag awr i ffwrdd o’i chartref yng Nghaeredin – eu cyhoeddi yn y Scottish Sun neithiwr (nos Sadwrn, Ebrill 4).

Dywed Heddlu’r Alban eu bod nhw wedi rhoi rhybudd iddi.

Ymddiheuriad

“Dw i am ymddiheuro’n ddi-ben-draw am y mater sydd wedi’i adrodd yn y cyfryngau heddiw,” meddai Dr Catherine Calderwood mewn datganiad.

“Tra bod yna resymau pam wnes i’r hyn wnes i, dydyn nhw ddim yn cyfiawnhau’r peth a doedden nhw ddim yn rhesymau dilys dros fod allan o’m cartref.

“Tra fy mod i a’m teulu wedi dilyn y cyngor ar ymbellháu cymdeithasol drwy’r amser, dw i’n deall na wnes i ddilyn y cyngor dw i’n ei roi i bobol eraill, ac mae’n ddrwg iawn gen i am hynny.

“Dw i’n gwybod pa mor bwysig yw’r cyngor hwn a dw i ddim am i fy nghamgymeriad dynnu oddi ar hynny.

“Mae gen i waith i’w wneud fel prif swyddog meddygol i roi cyngor i weinidogion ar lwybr y feirws yma ac i gefnogi’r proffesiwn meddygol wrth iddyn nhw weithio ddydd a nos i achub bywydau ac ar ôl siarad â’r prif weinidog bore heddiw, byddaf yn parhau i ganolbwyntio’n llwyr ar y swydd honno.”